Pro14: Dreigiau 16-28 Munster
- Cyhoeddwyd
Mae'r Dreigiau yn aros yn bumed yn Adran A y Pro14 wedi iddyn nhw golli gartref o 16-28 yn erbyn Munster.
Dechreuodd y tîm cartref yn gryf gan sgorio pwyntiau'r gêm o gic gosb Sam Davies, cyn i JJ Hanrahan unioni'r sgôr gyda chic i'r ymwelwyr.
Adeiladodd Munster fantais wedyn diolch i geisiau gan Matt Gallagher a Calvin Nash, gyda Hanrahan yn trosi un ac yn ychwanegu cic gosb arall.
Ond fe gaewyd y bwlch ychydig i 18-8 erbyn yr egwyl wrth i Sam Davies fanteisio ar gic y mewnwr Rhodri Williams i dirio am gais.
Tawelu rywfaint wnaeth hi yn yr ail hanner, gyda chic yr un i Davies a Hanrahan yn golygu bod y bwlch yn aros yn 10 pwynt wrth iddyn nhw gyrraedd y munudau olaf.
Ond sicrhaodd Munster y fuddugoliaeth wrth i Gallagher groesi am ail gais gydag wyth munud yn weddill, cyn i Matthew Screech sgorio cais gysur hwyr i'r Dreigiau.