Covid-19: Rheolau newydd yng Nghymru ar ôl 9 Tachwedd

  • Cyhoeddwyd
drakeford

Bydd cyfres newydd o fesurau cenedlaethol yn dod i rym wedi i'r cyfnod clo byr ddod i ben ddydd Llun nesaf.

Yn ei gynhadledd newyddion ddydd Llun dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bu'n rhaid addasu'r cynlluniau wedi'r "cyhoeddiad annisgwyl" gan Boris Johnson y byddai Lloegr yn mynd i gyfnod clo am fis o ddydd Iau.

Yn ôl Mr Drakeford roedd yn "syndod" mai'r tro cyntaf iddo glywed am y bwriad i osod cyfnod clo ar gyfer Lloegr gyfan oedd yn y papurau newydd dros y penwythnos.

Ond ychwanegodd nad oedd yn "beirniadu unrhyw un am wneud y penderfyniadau anodd hynny o ystyried yr amgylchiadau".

Dywedodd Mr Drakeford y bydd y cyfyngiadau presennol yn dod i ben yng Nghymru ar 9 Tachwedd, ond roedd angen ystyried effaith y cyfnod clo yn Lloegr ar y camau sy'n cael eu cymryd yma, meddai.

"Bydd y cyfnod clo yn Lloegr yn cael effaith ar bobl sy'n byw yng Nghymru ond yn gweithio yn Lloegr, ar gwmnïau sy'n gweithio yn y ddwy wlad ac ar fusnesau sy'n masnachu ar hyd y ffin," meddai.

Mesurau newydd

Bydd y mesurau cenedlaethol newydd ar ddiwedd y cyfnod clo ar 9 Tachwedd yn cynnwys y canlynol medd llywodraeth Cymru:

  • Bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, yn parhau;

  • Bydd y gofyniad i weithio gartref pan fo'n bosibl yn parhau;

  • Ni ddylai pobl ond cwrdd â'r rhai sy'n rhan o'u 'swigen' yn eu cartref eu hunain a dim ond dwy aelwyd fydd yn gallu ffurfio 'swigen'. Os bydd un person o'r naill aelwyd neu'r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunan-ynysu ar unwaith.

  • Caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd dan do wedi'i drefnu a hyd at 30 mewn gweithgaredd awyr agored wedi'i drefnu, cyn belled â'u bod yn dilyn yr holl fesurau o ran cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelu eraill;

  • Bydd pob safle, megis bwytai, caffis, tafarndai a champfeydd, a wnaeth gau yn ystod y cyfnod atal byr, yn gallu ailagor. Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau yn Lloegr, mae Gweinidogion yn parhau i drafod y rheolau manwl ar gyfer ailagor â'r diwydiant lletygarwch. Mae hyn yn cynnwys rheolau ynglŷn â chwrdd mewn mannau cyhoeddus dan do;

  • Fel rhan o'n hymdrech i leihau ein risgiau cymaint â phosibl, dylai pobl osgoi teithio os nad yw'n hanfodol. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond dylai teithio rhyngwladol fod ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig.

Dywedodd Mr Drakeford: "Gallwn gyflwyno deddfau newydd ond dim ond os ydym i gyd ohonom yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau ein cysylltiad gyda'r haint trwy gadw cyn lleied â phosibl o'r cysylltiadau sydd gennym â phobl eraill - gartref; yn y gwaith a phan fyddwn yn mynd allan."

Ychwanegodd: "Pan ddaethom allan o'r cyfnod clo yn y gwanwyn, fe wnaethom gymryd agwedd ofalus, gan ymlacio cyfyngiadau'n raddol i sicrhau na wnaethom golli'r holl fanteision a gawsom wedi gweithio mor galed i'w sicrhau.

"Byddwn unwaith eto yn defnyddio'r dull hwnnw - am y pythefnos cyntaf ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben bydd y mesurau cenedlaethol wedi'u cynllunio i gynyddu effaith y gwaith rydym i gyd wedi bod yn ei wneud i reoli lledaeniad y feirws.

"Byddwn yn adolygu'r sefyllfa ymhen pythefnos i weld a allwn wneud newidiadau pellach".

Aelwydydd estynedig

Dywedodd y Prif Weinidog mai'r rheolau ar gwrdd pobl eraill "o bosib yw'r anoddaf mae'n rhaid i ni eu hystyried".

O ddydd Llun nesaf ymlaen bydd hawl ffurfio cartref estynedig unwaith eto, ond gydag un aelwyd arall yn unig.

"Ry'n ni'n gofyn i bobl feddwl am yr hyn y dylen nhw ei wneud, yn hytrach na'r hyn mae hawl ganddynt i'w wneud," meddai Mark Drakeford.

"Nid yw hynny'n golygu ceisio ymestyn y rheolau i wneud mwy, ond yn hytrach cymryd cyfrifoldeb yn ein bywydau ein hunain i wneud y pethau fydd yn ein cadw'n ddiogel.

"Ry'n ni'n gwybod na fydd newid y rheolau i alluogi i ddau gartref gyfuno yn adlewyrchu teuluoedd nifer o bobl yng Nghymru, ac ni fydd yn galluogi i ffrindiau a phobl ifanc i gwrdd."

Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd hawl cyfarfod pobl o du allan i'r aelwyd estynedig mewn gerddi preifat, meddai Vaughan Gething

Yn ddiweddarach, dywedodd y Gweinidog Iechyd bod y rheolau ar gyfarfod eraill yn y cartref yn cynnwys gerddi.

Roedd modd i bobl gyfarfod pobl o du allan i'w haelwydydd mewn gerddi dros yr haf, ond ni fydd y rheol yna'n parhau.

Dywedodd Vaughan Gething: "Y gwir ydy os ydych chi yng ngardd rhywun rydych chi'n debygol o fod angen mynd dan do yn enwedig yn adeg yma'r flwyddyn."

Dim cyfyngu ar deithiau yng Nghymru

Mae Mr Drakeford wedi cyhoedd na fydd cyfyngiadau ar deithio yn fewnol o fewn ffiniau Cymru pan ddaw'r cyfnod clo i ben yma.

Ond fe ychwanegodd: "Yn ystod y cyfnod clo am fis yn Lloegr, ni fydd hawl i deithio tu allan i Gymru heb reswm dilys."

Dywedodd y byddai ysgolion yn ailagor yma yng Nghymru fel arfer o ddydd Llun nesaf ymlaen, ac fe fydd gweithio o adref yn dod "hyd yn oed yn fwy pwysig".

Bydd busnesau sydd wedi bod ar gau ers 23 Hydref yn cael ailagor hefyd ar 9 Tachwedd, ac fe fydd gwasanaethau awdurdodau lleol yn ailagor os yw'r amgylchiadau lleol yn caniatáu hynny.

Fe fydd addoldai yn ailagor hefyd - fe fydd modd i hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do, a 30 o bobl tu allan yn yr awyr agored.

'Penderfyniad anghywir'

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Paul Davies yn un o sawl Ceidwadwr Cymreig blaenllaw oedd yn feirniadol o'r clo byr, ond sydd wedi cefnogi clo cenedlaethol yn Lloegr gan Lywodraeth y DU

Mae'r Ceidwadwyr wedi cael eu beirniadu am wrthwynebu'r cyfnod clo byr yma yng Nghymru, ond ailadrodd hynny wnaeth eu harweinydd yn y Senedd.

Dywedodd Paul Davies AS: "Mae'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr wrth gwrs yn fater i Lywodraeth y DU a Boris Johnson, ac mae ei lywodraeth wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.

"Mae'r hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru yn fater gwahanol, a dyna hanfod datganoli.

"Mae prif weinidog Cymru a'r prif weinidog Boris Johnson wedi dweud bod llywodraethau datganoledig weithiau'n gwneud gwahanol benderfyniadau, ac rydyn ni wedi ei gwneud hi'n hollol glir ein bod ni'n meddwl bod y cyfnod clo cenedlaethol dros dro yma yn benderfyniad anghywir.

"Ond rydyn ni lle rydyn ni, ac rydyn ni'n gobeithio y gwelwn ni hyn yn atal y feirws yma."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y dylai'r llywodraeth ystyried pythefnos o gyfnod trawsnewid ar ôl y clo byr.

Gallai hynny gynnwys "ailagor graddol" i'r sector lletygarwch, gyda bwytai a thafarndai yn cau am 18:00.

Ychwanegodd ei bod hi'n "hollbwysig" bod cefnogaeth ariannol ar gael i'r sector honno.

'Dim sicrwydd i'r sector lletygarwch'

Mae mudiadau busnes wedi croesawu'r addewid i ailagor y sector lletygarwch, ond mae sawl un wedi galw am eglurder.

Mae gweinidogion yn dal i drafod y cyfyngiadau fydd ar fwytai, bariau ac ati ar ôl 9 Tachwedd.

Dywedodd y Welsh Independent Restaurant Collective: "Mae angen i ni wneud penderfyniadau hollbwysig am ddyfodol ein busnesau.

"Heb wybod dan ba amgylchiadau allwn ni weithredu, mae hynny'n amhosib."

Dywedodd Ian Price o CBI Cymru bod busnesau wedi buddsoddi "symiau sylweddol" mewn diogelu lleoliadau, a'u bod yn "barod i chwarae rhan wrth sicrhau llwyddiant".