1,646 achos newydd a thair marwolaeth yn rhagor
- Cyhoeddwyd
Cofnodwyd tair yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru o bobl gyda coronafeirws, gyda 1,646 o achosion newydd yn cael eu cadarnhau.
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cyfanswm yr achosion yng Nghymru bellach wedi cyrraedd 53,337, gyda 1,891 wedi marw gyda'r haint, ond maen nhw'n cydnabod y gallai'r gwir ffigwr yn y ddau achos fod yn sylweddol uwch.
Roedd nifer uchaf yr achosion newydd yng Nghaerdydd (252), gyda Rhondda Cynon Taf yn cofnodi 201 achos. Roedd Abertawe (182), Caerffili (145), Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam (102 yr un) hefyd yn cofnodi dros gant o achosion newydd o Covid-19.
O safbwynt y cyfartaledd heintio dros gyfnod y saith diwrnod diwethaf, mae Merthyr Tudful ymhell o flaen pawb arall gyda chyfradd o 689.6 achos am bob 100,000 o'r boblogaeth. Mae Rhondda Cynon Taf (506.5) a Blaenau Gwent (496.7) hefyd yn parhau yn uchel dros ben.
Dywedodd cyfarwyddwr ymateb coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Giri Shankar: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cefnogi mesurau newydd Llywodraeth Cymru a ddaw i rym ar ddiwedd y cyfnod clo byr presennol ar 9 Tachwedd, yn enwedig yr alwad ar bobl i gymryd cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd er mwyn cyfyngu ar ymlediad coronafeirws.
"Wrth i ni fynd i'r ail wythnos o'r cyfnod clo yna, rydym yn annog y cyhoedd i lynu at y rheolau presennol, sy'n hanfodol er mwyn i ni fedru cael rheolaeth o'r feirws, a gwarchod y GIG.
"Er bod mesurau cenedlaethol a lleol wedi gwneud gwahaniaeth, mae angen gweithredu ymhellach. Mae achosion yn parhau ar gynnydd, mae mwy yn mynd i'r ysbytai - gan gynnwys gofal critigol - ac yn anffodus mae mwy yn marw.
"O dan y rheolau rhaid i bobl aros adre heblaw am rai pwrpasau cyfyngedig iawn. Rhaid iddyn nhw beidio ymweld ag aelwydydd eraill, na chwrdd gyda phobl sydd ddim yn byw gyda nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2020