Rhannu'r profiad o effeithiau hirdymor dal Covid-19
- Cyhoeddwyd
I'r rhan fwyaf o bobl mae Covid-19 yn gyflwr sy'n para rhyw bythefnos ac wedyn mae pobl yn gwella.
Ond mae yna fwyfwy o dystiolaeth yn awgrymu fod y feirws yn effeithio yn wahanol ar rai pobl ac yn achosi salwch sy'n para am fisoedd ar ôl i'r feirws ei hun ddiflannu.
Cafodd Nicola Leanne Hughes Evans, sy'n byw yn Y Felinheli, y feirws ym mis Ebrill.
Bron i saith mis yn ddiweddarach mae hi'n dal yn methu byw bywyd llawn ac yn dioddef o flinder llethol a nifer o symptomau eraill.
Yn ôl arbenigwyr iechyd does dim patrwm cyffredin i'r salwch ond mae yna rai symptomau cyffredin gan y rhai sy'n dal i ddioddef.
Un o'r symptomau yw blinder parhaus ac hefyd mae bod yn fyr o wynt, poen yn yr esgyrn a'r cyhyrau a phroblemau clyw yn gyffredin.
'Methu cerdded lawr y grisiau'
"O'n i'n colli 'ngwallt, colli pwysau, dwi ddim yn gallu bwyta, ddim yn gallu cysgu, methu cerdded mwy na deg munud neu 'o'n i'n pasio allan," meddai Nicola Leanne Hughes Evans.
"Mae coesa' fi ar ddiwrnod drwg yn cleisio drostyn i gyd a fedra i ddim cerddad i lawr grisiau. Mae'r symptomau yn mynd a dŵad.
"O'n i'n ffonio doctor o hyd achos doeddwn i ddim yn dallt be oedd yn digwydd - dwi'n cael panic attacks."
Ychwanegodd: "Mae doctor fi wedi bod yn brilliant. Mae o wedi bod yn ffonio bob pythefnos yn cadw llygad arnaf fi ac mae o wedi dweud mai post-viral fatigue ydi o.
"Mae o wedi newid meddyginiaeth fi'n aml er mwyn gwneud yn siŵr bod corff fi ddim yn arfar hefo nhw ac felly yn gallu cwffio fo."
Mae'n dweud ei bod wedi cael cefnogaeth wych gan ei phartner a'i theulu, ond bod rhai pobl wedi dweud wrthi nad yw'r feirws yn bodoli.
"Dwi wedi cael pobl yn gyrru negeseuon i fi yn dweud 'ti ddim hefo fo, 'di o ddim yn wir', 'annwyd drwg sy' gynnach chdi', 'bug ydi o', a dwi yn gweld rhai pobl yn rhoi fideos i fyny yn llosgi masgiau," meddai.
"Dwi'n gweld hynna yn really selfish am fod PPE yn really anodd cael gafael arno. Dwi yn support worker ac i fi mae hynna yn wastio equipment mae y staff isio."
Cefnogaeth
Wrth edrych i'r dyfodol, teimladau cymysg sydd gan Nicola. Mae hi'n paratoi i fynd yn ôl i'w gwaith, ond yn gorfod cwtogi ei horiau.
"Dwi'n dal yn colli gwallt ac os dwi ddim yn bwyta'n iawn dwi'n colli pwysau. Dydyn nhw ddim yn gwybod pryd mae o'n mynd i wella so ella fyddai i'n well mewn mis, ella na fydda i ddim," meddai.
"Ond mae o wedi newid bywyd fi. Fedra i ddim gwneud be o'n i'n wneud saith mis yn ôl.
"Dwi'n lwcus o'r bobl sydd o nghwmpas i. Mae teulu fi wedi bod yn ffantastig, ac mae teulu fy nghariad wedi bod yn ffantastig ac mae rheolwyr yn y gwaith wedi bod yn ffonio bob pythefnos ers i mi fod off i wneud yn siŵr bo' fi yn iawn a helpu fi rŵan i fynd yn ôl i'r gwaith.
"Dwi ddim yn gwybod sut mae cariad fi wedi ei wneud o. Yn y dechrau o'n i'n methu cerddad i lawr grisiau, o'n i methu codi o'r gwely i wneud bwyd - roedd breaks fo i gyd yn mynd i wneud yn siŵr bo fi yn iawn ac wedyn mynd yn ôl i weithio.
"Dwi ddim yn gwybod be fuaswn i wedi ei wneud heb fo a'i deulu fo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2020