Cyn-seren rygbi'n cymryd camau'n erbyn noddwr Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Scarlets yn herio CaeredinFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae menyw fusnes a noddodd y Scarlets a Chlwb Pêl-droed Caerdydd yn wynebu methdaliad ar ôl i'w chwmni fynd i'r wal gyda dyledion o fwy na £12m.

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Ian Gough wedi dweud ei fod yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Clare Louise Thomas yn ymwneud â dyfarniad llys na chafodd ei dalu gwerth dros £20,000.

Dywedodd fod ei chwmni Juno Moneta Wealth hefyd mewn dyled o dros £31,000 am gyflogau sydd heb eu talu.

Dywedodd Ms Thomas ei bod wedi cyrraedd cytundeb gyda Mr Gough, ac mae'n gwadu unrhyw honiadau a wnaed am ei busnes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Gough yn cymryd camau cyfreithiol dros ddegau o filoedd o bunnau mae'n dweud sy'n ddyledus iddo

Dywedodd Mr Gough, cyn-glo Cymru a'r Dreigiau, ei fod wedi dechrau gweithio i'r busnes rheoli cyfoeth ym mis Mehefin 2017 fel rhan o uwch-dîm arweiniol.

Dywedodd ei fod wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â'r busnes a Ms Thomas, sydd hefyd yn cael ei nabod dan yr enw Louise O'Halloran, ac yna stopiodd ei gyflog o'r cwmni.

Dywedodd y cyn-chwaraewr ei fod hefyd wedi methu â chael arian sy'n ddyledus iddo yn dilyn cytundeb buddsoddiad eiddo gyda Ms Thomas.

Dywedodd Ms Thomas fod Mr Gough wedi gadael ei chwmni yn dilyn "penderfyniad ar y cyd", gan ychwanegu fel grŵp eu bod yn "anhapus â'i berfformiad".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod £500,000 yn ddyledus i'r Scarlets fel rhan o gytundeb noddi gyda Juno Moneta

Mae'r BBC yn deall bod y Scarlets yn ceisio adennill £500,000 o gytundeb nawdd tair blynedd gyda Juno Moneta a lansiwyd yn 2018.

Daeth y cwmni yn brif noddwr crys y rhanbarth, gyda Ms Thomas yn gyfarwyddwr bwrdd cyn ymddiswyddo ym mis Ionawr eleni.

Dywedodd hi ei bod yn gefnogwr brwd o fyd rygbi, gan ychwanegu bod ei bwrdd wedi cael ei siomi gan lefel y gwasanaeth a gawsant o'r rhanbarth.

Doedd y Scarlets ddim am ymateb.

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi dweud bod cytundeb i noddi lolfa yn stadiwm y clwb wedi dod i ben flwyddyn yn gynnar oherwydd amgylchiadau ariannol y cwmni.

Cadarnhaodd Ms Thomas fod y cytundeb wedi dod i ben yn gynt na'r disgwyl ond dywedodd ei bod yn credu mai'r rheswm am hynny oedd bod y cwmni'n noddi lolfa na ellid ei fynychu mwyach oherwydd Covid-19.

Ychwanegodd nad yw'n ymwybodol o unrhyw broblemau rhwng ei chwmni a'r clwb pêl-droed.

'Gostyngiad serth mewn incwm'

Mae Mr Gough yn un o nifer o gredydwyr i gwmnïau o fewn Grŵp Juno Moneta, aeth i ddwylo gweinyddwyr ym mis Awst eleni.

Roedd ei gredydwr mwyaf, Contrad Cyf, wedi buddsoddi £10.3m yn y cwmni.

Yn ôl datganiad gan y gweinyddwyr, gwrthododd Contrad gais gan Juno Moneta am fwy o arian ym mis Gorffennaf ar ôl cael gwybod am faterion rhwng y cwmni a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Yn hytrach, mynnodd Contrad ad-daliad ac aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dywedodd datganiad y gweinyddwyr fod cyfarwyddwyr y cwmni yn mynnu fod y methiant oherwydd "pandemig Covid-19 yn lleihau cysylltiadau wyneb yn wyneb â chleientiaid ynghyd â gostyngiad serth mewn incwm".

Ffynhonnell y llun, Robert Melen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clare Louise Thomas, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Louise O'Halloran, wedi gwadu unrhyw honiadau am ei busnes

Honnodd Ms Thomas fod gweld Juno Moneta yn mynd i'r wal "yn sioc llwyr" iddi.

Ychwanegodd ei bod yn "sâl iawn" ar y pryd a chredodd fod y mater o "ddigonolrwydd cyfalaf" gyda'r FCA wedi'i ddatrys gyda Contrad Cyf.

"Mae'n drist bod y llwybr hwn wedi'i gymryd... er fy mod yn hapus bod gan bron pob aelod o staff swyddi erbyn hyn", ychwanegodd.

'Peri pryder mawr'

Dywedodd un person busnes, nad oedd am gael ei enwi, nad oedd ganddynt unrhyw syniad "pa mor anniben oedd pethau'n ymddangos yn Juno Moneta".

Roeddent wedi buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnoedd gyda'r cwmni a dywedodd fod y sefyllfa'n un "anffodus iawn ac yn peri pryder mawr".

"Rwy'n cyrraedd y pwynt lle bydd yn rhaid i mi ddileu'r arian. Rwy'n ffodus y gallaf," ychwanegodd.

Mewn ymateb, dywedodd Ms Thomas bod y sefyllfa a'r sïon am ei busnes wedi peri gofid eithriadol iddi hi a'i theulu.

Dywed ei bod yn gwrthod unrhyw honiadau yn ei herbyn ac y byddai'n delio â hwy drwy'r sianeli cyfreithiol priodol.

Ychwanegodd Ms Thomas ei bod yn "pryderu'n fawr am lefel y wybodaeth anghywir am ei busnes".

Dywedodd Mr Gough fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn hunllefus ac wedi creu straen a gofid iddo.