Pro14: Gleision 7-11 Ulster
- Cyhoeddwyd
Yng ngwynt a glaw Rodney Parade doedd yna ddim cysur i'w gael i'r Gleision wrth i Ulster ennill eu pedwaredd gêm yn olynol yn y Pro14.
Y Gleision aeth ar y blaen yn erbyn rhediad y chwarae, gyda'r canolwr Rey Lee-Lo yn croesi.
Ond aeth Ulster ar y blaen gyda symudiad olaf yr hanner cyntaf, cais i Michael Lowry.
Ail gic gosb John Cooney oedd unig sgôr yr ail hanner, gan olygu bod Ulster yn parhau yn ddiguro'r tymor hwn.
Mae'r Gleision yn parhau yn yr ail safle yn Grŵp B, ar ôl ennill dwy a cholli dwy.