Pro14: Zebre 23-17 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Despondent OspreysFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Roedd y Gweilch yn wanach na'r digswyl ac heb dri o'u chwaraewyr oherwydd canllawiau coronafeirws wrth iddynt golli yn yr Eidal.

Hwn oedd buddugoliaeth gyntaf o'r tymor i Zebre gyda'r maswr Antonio Rizzi yn sgorio cais, dau trosgais a thair cic gosb

Roedd yna gais hefyd i Renato Giammarioli.

Tarodd y Gweilch yn ôl gyda Gareth Thomas ac Olly Cracknell yn croesi.

Bu'n rhaid i'r hyfforddwr Toby Booth wneud tri o newidiadau i'r garfan wnaeth drechu Glasgow, gyda Stephen Myler, Kieran Williams a Tiaan Thomas-Wheeler yn absennol.