Atal Covid-19 mewn ysbytai'n 'eithriadol o anodd'
- Cyhoeddwyd
Mae rhwystro coronafeirws rhag lledaenu mewn ysbytai yn "anhygoel o anodd" wrth i driniaethau iechyd ddychwelyd i lefelau arferol, yn ôl prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Roedd bron i 200 wedi dal yr haint mewn ysbytai yn ystod yr wythnos ddiwethaf, meddai Dr Andrew Goodall yn ystod cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cael ei tharo'n galed gydag o leiaf 57 o farwolaethau mewn ysbytai yn yr ardal.
Ond hyd yn oed yn y fan honno, dim ond 3% o'r cyfanswm o achosion oedd wedi dal yr haint mewn ysbytai, meddai Mr Goodall.
"Mae'n eithriadol o anodd i rwystro ei ledaeniad mewn llefydd gofal iechyd prysur, yn enwedig gyda thua 90 o bobl hefo Covid yn cael eu derbyn i'r ysbyty bob dydd."
9% yn llai na lefelau Ebrill
Dywedodd Dr Goodall wrth y gynhadledd bod 1,275 o gleifion yn derbyn triniaeth am Covid-19 yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd - dim ond 9% yn llai na'r lefelau uchaf a welwyd ym mis Ebrill.
"Ein capasiti arferol ar gyfer gofal critigol ydy 152, ac mae'r rheiny'n llawn gyda phobl sydd ddim â coronafeirws gan amlaf," meddai.
"Ond ar hyn o bryd mae gennym 163 o bobl yn derbyn gofal critigol, ac mae gennym gynlluniau i ymestyn y capasiti os oes angen."
57 o'r cleifion hynny sydd â Covid-19.
Ychwanegodd bod tua 16,000 o gleifion coronafeirws wedi cael eu trin a'u rhyddhau o ysbytai yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd bod gweithgaredd iechyd wedi dychwelyd i'w lefel arferol erbyn hyn, wedi i driniaethau orfod cael eu gohirio yn ystod y don gyntaf.
"Mae hyn yn golygu bod y GIG yn brysurach bellach," meddai Dr Goodall, gan ychwanegu bod dwywaith cymaint o gleifion sydd heb Covid-19 mewn ysbytai nawr o'i gymharu â'r don gyntaf.
Ychwanegodd bod nifer y cleifion canser sy'n cael eu cyfeirio am driniaeth wedi dychwelyd i lefelau arferol a bod nifer y cleifion allanol gafodd eu gweld ym mis Medi 75% yn uwch na mis Ebrill.
'Diogelwch yw'r flaenoriaeth'
Ond roedd y ffaith fod nifer o wasanaethau wedi dychwelyd i lefelau arferol yn ei gwneud yn anoddach atal lledaeniad Covid-19.
"Mae cyflawni gwasanaethau arferol y GIG mewn amgylchedd ble mae coronafeirws yn amlwg yn gwneud pethau'n anodd iawn," meddai.
"Darparu gofal diogel wastad yw ein blaenoriaeth fwyaf."
Ond ychwanegodd bod y mesurau i reoli coronafeirws wedi arafu gwasanaethau, a bod rhestrau aros wedi cynyddu yng Nghymru ac ar draws y DU o ganlyniad i hynny.
Effaith cyfyngiadau lleol
Dywedodd Mr Goodall hefyd nad oedd y cyfyngiadau lleol a gafodd eu cyflwyno ym mis Medi "efallai wedi cael yr effaith yr oeddem ei eisiau".
Ond "fe wnaeth arafu rhywfaint ar drosglwyddiad yr haint a oedd yn digwydd ym mis Medi a dechrau Hydref", meddai.
"O safbwynt y llywodraeth, rydyn ni'n edrych ar sut y gall y cyfnod clo yn gyffredinol gael effaith trwy ddod â gwahanol sectorau ynghyd mewn ymateb yn hytrach na dibynnu ar ymateb y GIG yn unig, ac yn amlwg mae'r cyfnod clo byr yno i wneud yn siŵr o'r cyfraniad hwnnw gan gymdeithas yn ehangach.
"Yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw, o ran gweithredoedd a wnaeth wahaniaeth i'n gallu i ymateb, yw bod y set genedlaethol o gamau a ddigwyddodd yn ôl ym mis Mawrth wedi cael effaith sylweddol iawn ar y tueddiadau a oedd yn digwydd yn y GIG ledled y DU ac yng Nghymru ei hun.
"Felly, yn ogystal â ninnau'n ceisio paratoi ac ymateb yn broffesiynol i'r pwysau yr oeddem yn eu hwynebu bryd hynny ... daeth llawer o'r effaith o ganlyniad i ymddygiad pobl, unigolion, y gymuned a chymdeithas.
"Felly, byddai cyflwyno cyfnod clo tebyg i'r math hwnnw o lefel, yn debyg i'r hyn yr oeddem ni'n ei brofi ym mis Mawrth, byddem yn gobeithio ac yn disgwyl cael yr un math o effaith."