Ffyrlo: Galw ar y prif weinidog i 'gadw addewid'
- Cyhoeddwyd

Bydd ffyrlo ar gael tan fis Rhagfyr ar ôl y cyhoeddiad fod Lloegr i wynebu cyfnod clo
Mae prif weinidog Cymru wedi dweud y dylai Boris Johnson gadarnhau ei gynnig i gefnogi cyflogau - pe bai angen hynny - pan ddaw'r cynllun ffyrlo i ben ym mis Rhagfyr.
Daw hyn ar ôl i Mr Johnson ddweud yn Nhŷ'r Cyffredin y byddai cyllid ar gael ar gyfer y gwledydd datganoledig "nid ddim ond nawr ond hefyd i'r dyfodol".
Ond bore Mawrth dywedodd un o weinidogion San Steffan mai penderfyniad i'r Canghellor fyddai hynny.
Dywedodd Mark Drakeford fod y prif weinidog wedi gwneud addewid, a'i fod yn disgwyl iddo gadw at hynny.
Yn gefndir i hyn, mae'r ffrae sydd wedi bod rhwng llywodraethau Bae Caerdydd a San Steffan ynglŷn â'r arian sydd ar gael i fusnesau a staff sy'n methu a gweithio yn ystod y cyfnod clo.

Dywedodd Mr Drakeford nad oedd hi'n deg fod y Trysorlys wedi aros tan bod cyfnod clo yn Lloegr cyn cyhoeddi y byddai'r cynllun ffyrlo yn cael ei ymestyn
Ddydd Llun yn Nhŷ'r Cyffredin fe holwyd Mr Johnson ynglŷn â beth fyddai'n digwydd pe bai angen cyfnodau clo yn y dyfodol.
Atebodd: "Pe bai rhannau eraill o'r DU yn penderfynu gosod mesurau sydd angen cynllun ffyrlo yna wrth gwrs byddai hynny ar gael iddynt - nawr ac yn y dyfodol."
Ond bore Mawrth dywedodd Robert Jenrick, Gweinidog Cymunedau wrth Sky News: "Pe bai angen ei gyflwyno eto, yna mae hynny'n benderfyniad y byddai'n rhaid i'r canghellor ei wneud yn y dyfodol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar ôl hynny fe wnaeth Mr Drakeford drydar: "Rydym yn derbyn gair y Prif Weinidog ac yn disgwyl iddo gyfarwyddo Canghellor ei lywodraeth i gadw at hyn."
Mae Prif Weinidog Yr Alban Nicola Sturgeon hefyd wedi galw am eglurder ar frys ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020