Gwasanaethau iechyd meddwl 'wedi methu' darlithydd

  • Cyhoeddwyd
Dr Deborah LamontFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Deborah Lamont yn ddarlithydd prifysgol ac yn gweithio gyda'r Groes Goch yn ei hamser sbâr

Mae rhieni menyw a laddodd ei hun yn dweud bod yr heddlu a gwasanaethau iechyd meddwl wedi ei "methu".

Maen nhw'n dweud bod Dr Deborah Lamont wedi ei gadael ar ben ei hun mewn gwesty er bod tystiolaeth ei bod wedi ceisio lladd ei hun o'r blaen.

Fe wnaeth yr heddlu farnu bod Dr Lamont, a gafodd ei hanrydeddu am ei gwaith gyda dioddefwyr tŵr Grenfell, yn "byw" mewn ystafell gwesty am y noson ac y byddai ei symud felly yn groes i'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Fe wnaethon nhw siarad gyda'r tîm asesu iechyd meddwl oedd wedi siarad gyda Dr Lamont, a'r penderfyniad oedd nad oedd angen gofal ar unwaith arni.

O fewn tair awr, roedd wedi lladd ei hun.

Ers y cwest i'r marwolaeth ym mis Ionawr, mae'r Coleg Plismona wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref ystyried newid y ddeddf er mwyn ei gwneud yn glir y gall person sy'n aros mewn gwesty am un noson gael ei gymryd i mewn i ofal yr awdurdodau.

Er bod y crwner o'r farn y gallai'r heddlu fod wedi symud Dr Lamont, ychwanegodd na fyddai wedi gwneud gwahaniaeth y noson honno gan fod yr asesiad nad oedd angen gofal brys arni yn un "rhesymol".

Ond dywedodd mam Dr Lamont, Lynda Lane, wrth BBC Cymru: "I mi roedd yna fethiannau. Pe byddai wedi cael ei chymryd i mewn rwy'n siŵr y byddai'n dal yma heddiw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Dr Lamont, Lynda a Roger Lane, yn dweud y gallai rhywun "fod wedi helpu" eu merch

Cafodd Dr Lamont, o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg, ddiagnosis o afiechyd personoliaeth pan yn 30 oed.

Roedd eisoes wedi ceisio lladd ei hun, ac yn derbyn meddyginiaeth am y cyflwr.

Roedd yn darlithio ym Mhrifysgol Met Caerdydd ac yn gweithio i'r Groes Goch yn ei hamser sbâr, ac fe gafodd Fedal Henry Dunant - yr anrhydedd fwyaf y mae'r sefydliad yn rhoi i'w haelodau - wedi iddi ymuno gyda'r timau ymateb i dân Tŵr Grenfell yn 2017.

Ar ôl cyfnod sefydlog, aeth i aros yng ngwesty'r Village Hotel yng Nghaerdydd ar 28 Mawrth 2019 am un noson, ond fe wnaeth ffrind iddi alw'r gwasanaethau brys yn dilyn pryder am negeseuon testun yr oedd Dr Lamont wedi'u hanfon.

Er y dystiolaeth ei bod wedi ceisio lladd ei hun, dywedodd plismon wrth y cwest fod ganddo bryderon am symud Dr Lamont o'r gwesty am ei fod yn credu nad oedd hynny'n cyd-fynd gyda'r Ddeddf Iechyd Meddwl am mai dyna oedd ei 'chartref' ar y pryd.

Galwodd yr heddlu y tîm asesu iechyd meddwl sy'n cael ei redeg gan Heddlu'r De a thri bwrdd iechyd lleol er mwyn asesu Dr Lamont.

Siaradodd nyrs gyda hi, gan ofyn iddi fynd at ei meddyg teulu y diwrnod canlynol, ac fe benderfynwyd ei gadael yn yr ystafell.

Ni wnaeth y nyrs edrych ar gofnodion meddygol Dr Lamont, oedd yn cynnwys y manylion am ymgeisiadau blaenorol i ladd ei hun, er i'r heddlu ddweud y gallai fod wedi gwneud.

'Dim gwybodaeth o'i chofnodion'

"Roedden nhw'n gwybod fod Debbie wedi ceisio lladd ei hun, ond fe 'naethon nhw siarad gyda hi ar y ffôn yn unig," meddai Mrs Lane.

"Dywedodd hithau wrth y fenyw ei bod yn iawn, ac y byddai'n mynd at y tîm iechyd meddwl y diwrnod wedyn, a dyna fu.

"Doedd ganddyn nhw ddim gwybodaeth o'i chofnodion. Pe bydden nhw wedi cael ei nodiadau ar gyfrifiadur fe fydden nhw wedi gweld ei bod yn eitha' bregus. Ond chafodd hynny mo'i wneud.

"Erbyn 21:00 roedden nhw i gyd wedi ei gadael hi. Does bosib y gallai rhywun fod wedi ei helpu."

Ffynhonnell y llun, Family photo

Fe wnaeth y crwner gyhoeddi adroddiad rheol 28 er mwyn atal marwolaethau yn y dyfodol ar ôl mynegi pryder y gallai rhywun arall mewn sefyllfa debyg gael ei gadael. Gofynnodd i'r heddlu i egluro'u dehongliad o'r Ddeddf Iechyd Meddwl er mwyn atal hyn.

Dywedodd llefarydd o'r Coleg Plismona bod eu canllawiau am gymryd pobl i mewn i ofal os ydyn nhw'n aros mewn gwestyau wedi newid a'i rannu gyda heddluoedd Cymru a Lloegr.

Ychwanegodd: "Mae'r Coleg wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref ystyried newid y ddeddf er mwyn delio gyda sefyllfa fel hyn yn y dyfodol, ac mae'r gwaith yna'n mynd rhagddo."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod y canllawiau i nyrsys yn yr uned asesu iechyd meddwl wedi cael eu newid fel bod llwybr clir wrth asesu pobl mewn argyfwng.

"Adeg y digwyddiad yma, nid oedd gan y tîm asesu iechyd meddwl fynediad i gofnodion meddygol Dr Lamont," meddai.

Bydd mwy am y stori yma ar raglen Wales Live ar BBC One Cymru am 22:45 nos Fercher, 4 Tachwedd.