'Jyst ffeindia ffordd o ddweud be' sy'
- Cyhoeddwyd
Dros gyfnod Nadolig 2018 fe wnaeth y ffermwr ifanc Sam Taylor geisio diweddu ei fywyd ar ôl syrthio i iselder dwys heb yn wybod i'w hun ers blynyddoedd.
Heddiw, mae'r dyn 26 oed o Langollen yn teimlo'n ffodus i fod yn fyw ac yn helpu eraill i estyn allan am help - rhywbeth nad oedd o'i hun yn gwybod sut i'w wneud pan oedd ar ei awr dywyllaf.
Mae hunanladdiad yn effeithio ar dros ddwywaith gymaint o ddynion na menywod yng Nghymru ac mae gan y diwydiant ffermio un o'r ffigyrau uchaf o ran proffesiwn.
Mae Sam yn gwirfoddoli gydag elusen DPJ Foundation sy'n cymryd rhan mewn wythnos i roi sylw arbennig i iechyd meddwl yn y sector amaethyddol sy'n dechrau ar ddiwrnod iechyd meddwl y byd ar 10 Hydref.
Cymerwch gamau bach tuag at ddechrau siarad, meddai Sam wrth rannu ei brofiad gyda Cymru Fyw:
"Dros y blynyddoedd 'nath pethau jyst dechrau mynd o'i le. O'n i'n sâl am lot mwy o amser nag o'n i'n meddwl," meddai.
Ddim eisiau siarad
Breuddwyd Sam erioed oedd ffermio, ond dydi ei deulu ddim yn dod o gefndir amaethyddol. Felly pan brynodd ei fferm a'i stoc ei hun roedd ganddo lawer o waith dysgu a neb i'w helpu.
"Roedd prynu'r lle wedi cymryd lot o stress, roedd rhaid talu amdano fo 'run pryd, felly am flynyddoedd dwi 'di bod yn gweithio a stressio dros talu biliau, talu morgej, gwneud yn siŵr bod y gwaith i gyd wedi ei wneud, a trio cadw'r gwaith llawn amser, y job, yn mynd hefyd," meddai Sam.
"Wedyn dros yr haf 2018 o'n i wedi mynd yn uffernol o sâl, oedd 'na rhywbeth yn rong. O'n i'n gwneud y tŷ i fyny hefyd, ac o'n i'n stryglo i gadw popeth i fynd, ond o'n i ddim isho deud wrth neb.
"Wedyn 'nath o fynd yn waeth ac yn waeth, oedd pobl yn dechrau sylwi mod i'n stryglo. O'n i jyst ddim yn gallu cael fy mhen o gwmpas bywyd.
"'Nath y berthynas efo Mam a Dad, y teulu a nghariad i ddioddef. O'n i'n stryglo efo nhw i gyd achos roedden nhw isho i fi siarad am bethau o'n i ddim isho siarad amdanyn nhw.
Aeth un peth i'r llall a rhwng Dolig a Flwyddyn Newydd 2018 o'n i wedi penderfynu lladd fy hun.
"Aeth un peth i'r llall a rhwng Dolig a Flwyddyn Newydd 2018 o'n i wedi penderfynu lladd fy hun. Roedd y Dolig yn amser unig i fi, oedd 'na lot o bethau'n mynd ymlaen, oedd y tŷ heb ei orffen, ac o'n i ddim rili wedi siarad efo neb amdano fo.
"O'n i ddim eisiau gwneud rhywbeth [i fy hun]... ond dyna'r unig plan o'n i'n gallu cael yn syth yn fy mhen i."
Fe geisiodd Sam gymryd ei fywyd ond yn ffodus fe gafodd ei ddarganfod mewn pryd.
Bu yn Ysbyty Glan Clwyd cyn cael ei symud i uned seiciatryddol ym Mangor - cyfnod mae'n ei ddisgrifio fel un unig ac "ofnus" iawn.
Hyd yn oed wedi gadael yr ysbyty a gweld cwnselwyr y gwasanaeth iechyd yn ddyddiol, doedd o ddim eto wedi sylweddoli ei fod wedi bod yn sâl iawn am gyfnod hir.
Dim ond yn raddol y dechreuodd ddeall ei fod wedi bod yn sâl ers bron i bum mlynedd.
Edrych yn ôl
"Mae'n uffar o job deall bod ti'n sâl. O'n i jyst wedi mynd i feddwl, 'dyma pwy ydw i rŵan', achos ti'n newid dros gyfnod mawr o amser. Ti'n gwybod bod 'na rywbeth. Ti'n gwybod bod pethe yn newid a ti'n colli pobl a mae'r busnes yn mynd... ond ti ddim yn gwybod be' ydi o.
"Ti ddim isho deud 'dwi'n depressed', ti ddim isho deud dy fod ti'n teimlo fel wyt ti achos ti ddim yn gwybod os 'di rhywun yn mynd i ddeall neu ddim, a dwi 'di dod ar draws lot o bobl sydd yn cau coelio bo fi'n stryglo ac roedd hynny'n ei wneud yn waeth."
Yn hytrach na gallu rhannu ei ofidiau roedd wedi gwthio pawb o'i gwmpas yn bellach i ffwrdd.
Y mwyaf roedd y problemau yn pentyrru, yr anoddaf oedd hi iddo fo allu dweud beth oedd yn ei boeni.
"Oedd i gyd o'r pethau yna yn mynd trwy mhen i, lot o filiau yn dod mewn, trio talu am popeth, trio cadw job... Wrth edrych arno fo rŵan, oedd gormod yn mynd ymlaen ac o'n i ddim yn gwybod sut i ddelio efo fo."
Roedd yn bwyta llai a llai ac yn ei chael yn anodd cysgu yn y nos ac yn anodd codi yn y bore - rhywbeth oedd yn anarferol iddo.
Ar rai dyddiau lle roedd angen mynd ag ŵyn i'r farchnad, fyddai o ddim yn gallu ysgogi ei hun i fynd â nhw.
Roedd wedi gadael ei swydd hefyd gan nad oedd yn teimlo ei fod yn gallu ei gwneud mwyach ac roedd hynny hefyd yn ychwanegu at y pryderon ariannol. Ffraeodd gyda'i deulu a daeth ei berthynas gyda'i gariad i ben.
Mae 'na ffordd o wella
Fe gafodd Sam yr help roedd ei angen yn y diwedd ar ôl cysylltu gyda'r DPJ Foundation.
"Unwaith o'n i wedi cael y counselling iawn, o'n i 'di dechrau deall mod i'n sâl. Os fase rhywun di gallu gwneud hynny i fi cyn i bethau mynd mor wael a wnaethon nhw fyswn i di deall fod 'na ffordd allan, a ffordd o wella.
"Os fyse neb 'di ffeindio fi y diwrnod yne, fyswn i heb gael help. A mae rhai pobl dwi'n nabod - o'n i'n arfer 'nabod - sydd ddim di bod mor lwcus â hynny."
Mae pawb yn disgwyl i ffermwyr fod yn gryf, meddai Sam, i helpu eraill, nid i ofyn am help eu hunain.
Ond mae angen help arnyn nhw gan bobl sy'n deall y pwysau unigryw sydd ar ffermwyr.
"O'n i ddim angen i bethau fynd mor ddrwg â hynny, o'n i'n poeni am dalu biliau, ac mi roedd y pres yn y banc, ond o'n i jyst ddim yn gallu cael o yn fy mhen i gymryd y pres allan i dalu'r bil. Mae'n swnio'n od, ond dyna sut fath o amser oedd o, oedd dim byd yn iawn yn fy mhen i."
"O'n i ddim isho i neb wybod.
"Ti eisiau rhywun i ofyn iti 'be sy?', 'oes yne rhywbeth tisho i fi wneud?' ond wedyn ti ddim eisiau iddyn nhw wneud chwaith, achos ti eisiau iddyn nhw feddwl bod ti'n gallu 'neud o ar dy ben dy hun.
"O'n i ddim yn gallu cymryd yr help. Ond o'n i eisiau'r help."
Beth yw cyngor Sam i eraill?
"I ddechrau, deall bod 'na rywbeth yn rong a dwi'n gwybod ei fod yn anodd, ond dechrau dweud mewn ffyrdd bach.
"Mae fy nheulu i 'di newid lot, oedd neb ohonan ni'n siarad am ddim byd, ond rŵan os oes 'na rywbeth bach, dani jyst yn siarad amdano fo. Mae'n swnio fel rhywbeth hawdd, ond dydi o ddim."
Camau bach ydyn nhw, meddai Sam: cyfaddef eich bod ddim yn teimlo fel codi y bore hwnnw, yn hytrach na theimlo cywilydd; dweud eich bod yn cael trafferth talu bil; siarad yn hytrach na cheisio cuddio teimladau.
"Os oes 'na ffordd i ddechrau siarad efo rywun, dim bwys pwy - brawd, Mam, cariad - mae pawb yn gallu codi ffôn wedyn ar dy ran di i gael help os ti ddim yn gallu.
"Mae o yn anodd. Jyst ffeindia ffordd o ddweud be' sy."
Cyfaddefwch hefyd na fedrwch chi wneud popeth eich hun, a dewch â phobl i mewn i'ch bywyd meddai Sam.
Y mwyaf dwi'n siarad efo pobl am fy sefyllfa fi, y mwya mae pobl yn dechrau siarad am eu teimladau nhw.
Roedd wedi cymryd holl gyfrifoldeb y fferm ar ei ysgwyddau ei hun, felly pan aeth yn sâl doedd gan ei deulu ddim syniad beth i'w wneud ar y fferm.
Rŵan mae wedi trafod gyda'i dad a phobl eraill beth yw'r gwaith sydd angen ei wneud ar y fferm.
'Mae pawb yn stryglo'
Bellach mae Sam yn codi ymwybyddiaeth o'r help sydd ar gael drwy siarad efo ffermwyr mewn sioeau a marchnadoedd ac yn ei swydd newydd yn gweithio i gwmni bwyd amaethyddol.
"Y mwyaf dwi'n siarad efo pobl am fy sefyllfa fi, y mwya' mae pobl yn dechrau siarad am eu teimladau nhw. Mae pawb yn stryglo efo rhywbeth, ar ryw adeg, pawb. Dwi ddim yn gwybod pam bod neb yn siarad amdano fo.
"Os fyse rhywun wedi deud ddwy flynedd yn ôl y byswn i dal yma a'r busnes yn gwneud mor dda, rŵan dwi'n well.... dwi dal yn stryglo efo pethau, ond dwi'n gwybod sut i ddelio efo fo."
Sefydlwyd elusen DPJ Foundation yn arbennig i bobl yn y sector amaeth er cof am Daniel Picton-Jones, contractiwr amaethyddol o Sir Benfro a gollwyd i hunanladdiad.
Mae'r elusen yn cymryd rhanmewn cynhadledd iechyd meddwl i Gymru gyfan, dolen allanol sy'n cael ei gynnal gan Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Gwener, 9 Hydref, 2020.
Hefyd o ddiddordeb: