Chwilio am gasglwr cocos sydd ar goll yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Darren ReesFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am gasglwr cocos sydd ar goll oddi ar arfordir Sir Gaerfyrddin.

Gwelwyd Darren Rees, 43, ddiwethaf brynhawn Mawrth pan oedd yn chwilota ar lanw isel yn ardal Machynys yn Llanelli.

Mae Heddlu Dyfed-Powys, Gwylwyr y Glannau a hofrennydd yr heddlu yn chwilio'r arfordir ac Afon Llwchwr.

Cafodd Mr Rees ei adrodd ar goll am tua 18:40, ond nid oedd wedi cael ei weld ers cyn iddi dywyllu, meddai'r heddlu.

Dywedodd yr heddlu iddo gael ei weld ddiwethaf yn gwisgo rhydwyr gwyrdd a siwmper las.

Maen nhw wedi gofyn i unrhyw un a allai fod wedi'i weld i gysylltu â'r heddlu.