Prifysgol yn gwahardd myfyrwyr am gael partïon Calan Gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgol Abertawe y "gallai rhagor o waharddiadau dros dro ddilyn"

Mae Prifysgol Abertawe wedi gwahardd nifer o fyfyrwyr wedi iddyn nhw dorri rheolau Covid-19 Llywodraeth Cymru a'r brifysgol trwy gynnal partïon Calan Gaeaf.

Dywedodd y brifysgol bod 15 o fyfyrwyr wedi'u gwahardd dros dro, ond y "gallai rhagor o waharddiadau dros dro ddilyn wrth i'r ymchwiliadau barhau".

Yn ôl y brifysgol bu'n rhaid i'w dimau diogelwch "ymyrryd nifer o weithiau ar Gampws Singleton dros y penwythnos er mwyn gorfodi'r rheoliadau".

Ond ychwanegon nhw eu bod yn ymchwilio i bartïon oddi ar gampws y brifysgol hefyd.

'Siomedig iawn'

Dywedodd cofrestrydd a phrif swyddog gweithredu Prifysgol Abertawe, Andrew Rhodes ei fod wedi siarad â phob un o'r myfyrwyr dan sylw a'u hatgoffa am "y canlyniadau difrifol a all ddeillio o beidio â dilyn rheoliadau Covid-19".

"Mae'r mwyafrif helaeth o fyfyrwyr Abertawe'n dilyn canllawiau a mesurau cadw pellter cymdeithasol y llywodraeth ond, gwaetha'r modd, mae angen atgoffa rhai yn y lleiafrif o hyd ein bod yng nghanol cyfnod atal byr cenedlaethol, ac argyfwng iechyd cyhoeddus," meddai.

"Mae'n siomedig iawn bod rhai myfyrwyr wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac rwy'n ymddiheuro i'r gymuned am unrhyw drafferthion a achoswyd.

"Gobeithio y bydd y camau disgyblu hyn yn anfon neges gref at ein cymuned o fyfyrwyr am yr angen i gadw at reoliadau Covid-19 bob amser, ac am ganlyniadau peidio â gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brifysgol yn ymchwilio i bartïon ar y campws ac oddi ar y campws

Ychwanegodd Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru, Trudi Meyrick bod y llu yn "croesawu'r camau gweithredu a gymerwyd gan Brifysgol Abertawe".

"Dylai'r gwaharddiadau dros dro anfon neges gref at fyfyrwyr eraill, ac rwy'n gobeithio y byddant yn ei hidio. Yn debyg iawn i'r mesur a gymerwyd gan y brifysgol, dim ond fel dewis olaf y bydd yr heddlu'n cymryd camau gorfodi," meddai.

"Fodd bynnag, byddwn yn gweithredu yn erbyn y rhai sy'n gwrthod gwrando ac sy'n parhau i ddiystyru'r rheolau."