Y Cymry ifanc sy'n ceisio newid y byd
- Cyhoeddwyd
Ar Ddydd Sul, 8 Tachwedd, mae cyfres newydd chwe rhan yn dechrau ar BBC Radio Cymru sy'n rhoi llwyfan i rai o wyddonwyr Cymru.
Ar y rhaglen Yfory Newydd bydd Elin Rhys yn trafod syniadau gyda gwyddonwyr ifanc sy'n ymchwilio i faterion all brofi'n hanfodol i bob agwedd o'n bywydau yn y dyfodol.
Mae'r gyfres yn trafod nifer o'r testunau mwyaf pwysig sy'n wynebu ein planed; effaith newid hinsawdd ar gnydau, chwilio am wrth-fater, sut mae COVID-19 yn lledaenu a phwysigrwydd egluro data yn effeithiol.
Erin Owain, o'r cwmni Acclimatise sy'n edrych yn benodol ar effaith newid hinsawdd ar gotwm
"Ar hyn o bryd dwi'n arwain prosiect tair blynedd sy'n gweithio gyda'r byd ffasiwn, ac yn sbïo ar gadwyn gyflenwi cotwm. 'Da ni'n gweithio efo ffermwyr sy'n tyfu cotwm a sbïo ar effeithiau newid hinsawdd ar dyfu cotwm yn benodol. Hefyd, yr effeithiau ar brosesu cotwm, ll'nau'r cotwm, lliwio'r cotwm, creu'r dilledyn a symud y dillad i siopau ar draws y byd.
"Nid yn unig bod newid hinsawdd yn golygu bod tymheredd y ddaear yn codi, ond mae'r nifer a dwyster tywydd eithafol hefyd yn mynd i fod yn cynyddu. Mae hynny'n cael effaith ar gotwm, er enghraifft o achos llifogydd neu gyfnodau o dymheredd cynnes iawn sy'n achosi sychder neu heat stress ar y cotwm.
"Mae'r ardaloedd sy'n tyfu cotwm mewn ardaloedd sy'n agos i'r threshold yn mynd i fod mewn peryg, yn enwedig wrth i'r tymheredd barhau i godi - bydd y thresholds yna yn cael eu pasio yn amlach ac yn amlach gyda'r ardaloedd yna wedyn o dan risg. Ond mae hefyd yn golygu bod ardaloedd eraill sydd ar hyn o bryd yn rhy oer yn cael fwy o siawns i dyfu cotwm yna.
"'Da ni'n cynghori'r ffermwyr o ran pa fath o dechnegau allen nhw addasu. Os ydi o i'w wneud efo argaeledd dŵr fysa ni'n gallu cynghori nhw i adeiladu ffosydd artiffisial sy'n dod â dŵr i ddyfrhau cnwd yn amlach.
"Ein ffordd ni o siopa sydd wedi newid, yn enwedig yn y degawdau diwethaf wrth i'r ffenomena 'ma o'r enw fast fashion ddod yn boblogaidd - prynu nifer uchel o ddillad gwerth isel iawn. Mae hynny 'di rhoi lot o bwysau ar y gadwyn cyflenwi cotwm.
"Ond mae 'na newid 'di bod, yn enwedig ers i'r Cenhedloedd Unedig greu charter yn 2018, pan 'nath holl frandiau enwoca'r byd ddod at ei gilydd i greu cadwynau cotwm mwy cynaliadwy - bod y cwsmer yn dewis prynu yn llawer mwy conscious ac yn sbïo i weld o ba ddefnydd mae wedi ei greu; cotwm cynaliadwy neu allan o olew a phlastig.
"Un ffactor yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd yw i'r ffermwyr gael mwy nag un ffordd o gael incwm. Mae 'na ffermwyr sy'n tyfu ceirch gyda chotwm - yn tyfu ceirch am chwe mis y flwyddyn a chotwm yn y chwe mis arall.
"Mae 'na lot o safonau yn y byd ffasiwn ar hyn o bryd - organig, fair trade, better cotton initiatives, sy'n annog ffermwyr i fod yn rhan o'r safonau gwahanol ac i fod mwy cynaliadwy.
"Mae llawer o'r nwyddau 'da ni'n defnyddio o ddydd i ddydd efo supply chains cymhleth iawn sy'n mynd o un wlad i'r llall ar draws y byd yn ôl ac ymlaen yn adio gwerth i'r cynnyrch ar bob cam o'r gadwyn, ond gyda phob cam yn fregus i newidiadau yn yr hinsawdd."
Lloyd Warburton, disgybl ysgol o Aberystwyth sy'n codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cael data clir am Covid-19
"Mae gen i ddiddordeb cryf mewn pethau fel ystadegau. Gyda etholiadau dros y pump i ddeng mlynedd ddiwetha', dwi wedi ysgrifennu pethau lawr, ond roedd hwn [cofnodi data COVID-19] yn gyfle i fi wneud rhywbeth gydag ystadegau a gwneud rhywbeth sy'n gallu cael ei rannu am y tro cyntaf.
"Mae'n helpu pobl i ddeall pwysigrwydd data, mae'n dweud stori, mae'n cadw trends. Ar hyn o bryd mae pobl yn cofio nôl i pandemig ffliw 1918, ac SARS hefyd. Mae'n ddigwyddiad hanesyddol [pandemig Covid-19] ac yn y dyfodol bydd pobl eisiau edrych nôl a gweld beth oedd yn digwydd.
"Dwi'n defnyddio Iechyd Cyhoeddus Cymru [fel ffynhonnell], maen nhw wedi bod yn wych gyda data pob dydd ers canol mis Ebrill. Dwi hefyd yn defnyddio'r ONS (Swyddfa Ystadegau Gwladol) ac mae gen i dudalen gyda'u ffigyrau marwolaethau nhw.
"Dwi'n defnyddio PowerPoint oherwydd mae'n ffordd wych o wneud sleidiau syml i ddarllen. Ar gyfer y map ar ochr y sleidiau dwi'n defnyddio Microsoft Paint - ma'n hawdd i'w ddefnyddio a dwi heb ddarganfod dim byd sy'n gallu gwneud e'n gyflymach eto.
"Rydw i'n pwysleisio creu pethau syml i ddarllen. Mae cyfradd COVID-19 fesul 100,000 yn bwysig, achos mae 1,000 o achosion ym Merthyr sydd efo tua 60,000 o boblogaeth yn wahanol iawn i 1,000 o achosion yng Nghaerdydd sydd efo bron i 400,000 o boblogaeth.
"Mae'n bwysig cofio bod ystadegau un diwrnod ddim yn golygu dim - y trend sy'n bwysig. Allwch chi ddim cymharu nifer o achosion heddiw gyda'r don gyntaf, oherwydd doedd gymaint o bobl ddim yn cael prawf yn ystod y don gyntaf. Ond gyda marwolaethau rydych yn gallu cymharu yn fwy teg.
"Ar y dechrau roedd gen i tua 3,500 o ddilynwyr Twitter, ond ar ôl i mi bostio un neu ddau o ystadegau roedd bobl yn cymryd sylw. Roedd tua mil pob dydd ar un pwynt yn dilyn fi, sydd yn enfawr i fi rywun fel fi.
"Mae rhaid i mi fod yn ymwybodol o sut bydd pobl yn darllen ac ymateb i'r ystadegau dwi'n cyhoeddi. Mae dimensiwn personol iddo fe - mae'n ddigwyddiad sy'n digwydd i bobl nid i'r economi."
Ceinwen Thomas, gwyddonydd ym Mhrifysgol Bangor sy'n rhan o'r tim sy'n dadansoddi lledaeniad COVID-19 mewn carthion
"Mae COVID yn afiechyd sy'n effeithio ar yr ysgyfaint, felly pan mae unigolyn sydd wedi'i heintio â'r feirws yn tagu ma'r mwcws yn cael ei wthio allan o'r bronchai i fyny drwy'r tracea ac mae'n cael ei lyncu. Wedyn mae'r feirws yn y mwcws wedyn yn teithio drwy'r system dreulio, sy'n golygu bod o'n cyrraedd ysgarthion yn y pen draw.
"Mae'r syniad o ddefnyddio dŵr gwastraff i fesur faint o heintiau wedi dod yn wreiddiol o astudiaethau ar feirysau sy'n effeithio ar y system dreulio - norovirus, rotavirus, Hepatitis A a Hepatitis E.
"Mae canlyniadau'r astudiaethau yna'n awgrymu bod 'na gyd-berthynas rhwng meintiau'r firysau yn y dŵr gwastraff a'r niferoedd o heintiau mewn poblogaeth benodol. Ac mae gwyddonwyr wedi dod i'r un casgliad efo coronafeirws - bod maint COVID-19 mewn dŵr gwastraff yn adlewyrchu'r nifer o heintiau o fewn ardal.
"Ni sy'n gwneud yr arbrofion, felly 'da ni'n mynd i wahanol safleoedd Dŵr Cymru ar hyd y gogledd tair gwaith yr wythnos. Mae staff Dŵr Cymru yn casglu samplau i ni a 'da ni'n mynd â nhw i'r labordy ar gyfer arbrofion.
"'Da ni'n cael gwared â solidau o'r sampl, ac yna targedu gennyn N1 y coronafeirws. Mae'r dechneg 'da ni'n defnyddio yma ym Mhrifysgol Bangor yn galluogi ni i ffocysu yn benodol ar y coronafeirws mewn sampl dŵr.
"Mae gen i radd mewn gwyddoniaeth biofeddygol, felly dwi'n dod o gefndir sy'n astudio iechyd ac afiechydon. Felly pan 'nath y pandemig ofnadwy 'ma godi'i ben o'n i jest isio gwneud rhywbeth i frwydro yn erbyn y feirws. Mae'n fraint cael gweithio lle ydw i."
Hywel Turner Evans o adran ffiseg fyd-enwog Prifysgol Abertawe sy'n creu gwrthfater yn ei lab er mwyn deall sut mae'r bydysawd yn gweithio
"Yn y bydysawd ni wedi arfer gyda 'mater' arferol, ond ma' 'na hefyd 'gwrth-fater', sef rhywbeth 'dy ni ddim yn dod ar draws mor aml.
"Yn y Glec Fawr, yn ôl damcaniaeth Ffiseg, dyle ni ddisgwyl bod nifer cyfartal o fater a gwrth-fater wedi cael ei greu. Ond os fydde hynny'n wir bydda'r mater a gwrth-fater wedi canslo ei gilydd mas, a bydde 'na ddim byd ar ôl heddi.
"Beth ni'n trio gwneud yw astudio gwrth-fater er mwyn gweld y gwahaniaeth rhyngddo ef â 'mater arferol'. Ni'n edrych ar yr hen arwyddion sy'n dod o'r Glec Fawr.
"Achos bod y bydysawd yn ehangu, ma'n ehangu o ryw bwynt, ac felly achos bo' ni'n bell iawn i ffwrdd mae'n cymryd amser i'r tonnau yna ein cyrraedd ni. Pan chi'n edrych ar yr haul, mewn ffordd rydych chi'n gweld nôl mewn amser rhywfaint, achos mae'n cymryd amser i'r golau yna gyrraedd llygaid chi.
"Ni'n defnyddio ffynhonnell ymbelydrol, a defnyddio system gwactod a chael gwared â chymaint â fater a phosib, fel bod y gwrth-fater yn gallu byw yn y gwactod.
"Mae'r math yma o ymchwil yn cael ei alw'n blue skies research, sy'n golygu bod e ddim yn glir pam bod yr ymchwil am fod yn ddefnyddiol i ni yn y dyfodol - os bydden ni'n gwybod hynna bydden ni'n bobl gyfoethog iawn, neu enwog efallai.
"Pan wnaeth Hertz ddarganfod tonnau radio roedd e'n dweud bod e ddim yn gallu rhagweld be' fyddai pwrpas/defnydd ei ymchwil. Gall fod yn ddegawdau nes bod y pethau yma'n ffeindio defnydd pob dydd.
"Mae yna lot o blwm yn y labordy wrth ymyl y ffynhonnell ac mae'n lleihau nifer yr ymbelydredd gama. Ac mae gennym ni ardal lle 'dy ni ddim yn cael mynd iddo heblaw bod ni'n gwneud rhywbeth penodol. Wrth weithio gydag ymbelydredd mae rhaid bod yn ofalus a golchi'ch dwylo, gwisgo menig, bod yn ofalus o amgylch plwm a'r system gwactod.
"Ges i gynnig gwneud doethuriaeth yn CERN. Pan nes i glywed nhw'n siarad am CERN yn Genefa sydd efo'r Hadron Collider mawr a meddwl fydde'n lle'n da i fynd i'w ymweld, ond o'n i byth di meddwl mai rhywun fel fi fydde'n gweithio yna - pobl clyfrach na fi, dim bachgen o Ysgol Penweddig.
"Ond wedi i mi fynd i ddiwrnod agored ym Mhrifysgol Abertawe a chlywed darlith gan yr Athro Mike Charlton, sydd bellach yn ail-orchwyliwr i mi nawr, ac o'n i'n gwybod mai yn fan hyn oeddwn i eisiau bod."
Mae pennod gyntaf Yfory Newydd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru am 19.00 ar Ddydd Sul, 8 Tachwedd.
Hefyd o ddiddordeb: