Lle i enaid gael llonydd: Rhydian Bowen Phillips
- Cyhoeddwyd
Mae Rhydian Bowen Phillips yn cyd-gyflwyno Y Sioe Sadwrn ar BBC Radio Cymru gyda Shelley Rees. Yma, mae'n trafod y lle sy'n rhoi llonyddwch meddwl iddo, wrth grwydro Ynys y Barri gyda'i deulu.
'Ni'n teimlo'n gartrefol iawn yma'
Bachgen o Gwm Rhondda fydda i am byth, gan fy mod wedi byw a bod yn y Porth am flynyddoedd maith o fy mywyd.
Ond nawr gan ein bod ni wedi symud i fyw i'r Barri, mae rhaid dewis arfordir Ynys y Barri fel y lle sy'n rhoi llonyddwch i fy enaid.
Ni'n teimlo'n lwcus iawn fel teulu - Chel fy ngwraig a'n mab bach Teifi Glyndŵr - i allu galw Barri yn gartref i ni ers blwyddyn bellach. Ni'n teimlo yn gartrefol iawn yma.
Mae pawb yn deall pa mor anodd mae'r flwyddyn hon wedi bod i'r byd, felly mae cael crwydro golygfeydd godidog arfordir y Barri, ar ein stepen drws, wedi bod yn iachâd meddyliol i ni, fel rhyw fath o fotwm reset ar broblemau'r byd.
Yn y cyfnodau clo yma eleni yn enwedig, roedd gallu mynd i lawr i'r traeth, neu grwydro llwybrau y Cnap neu Borthceri yn yr haul neu'r glaw, yn amhrisiadwy.
Hefyd o ddiddordeb: