'Angen £500m i ddiogelu hen domenni glo Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd angen dros hanner biliwn o bunnau i sicrhau diogelwch hen domenni glo Cymru dros y degawd nesaf.
Dyna'r rhybudd mewn llythyr gan aelodau seneddol at y Canghellor Rishi Sunak, yn ei annog i weithredu wedi'r tirlithriad uwchben Pendyrus yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd un hanesydd fod y digwyddiad ym mis Chwefror wedi ysgogi atgofion "brawychus" o drychineb Aberfan.
Llithrodd 60,000 o dunelli o wastraff glo i lawr ochr y mynydd ym Mhendyrus wedi glaw trwm Storm Dennis.
Mae'r llythyr gan y bedwar o aelodau seneddol lleol Llafur yn datgelu manylion sydd heb eu cyhoeddi o adolygiad gan Awdurdod Glo'r DU i'r hyn ddigwyddodd.
Ym mis Hydref, darparodd Llywodraeth y DU £2.5 miliwn i helpu i lanhau a diogelu'r safle.
Ond mynnu wnaeth Llywodraeth Cymru y byddai angen ffigwr "sylweddol fwy".
Yn ôl Llywodraeth Prydain mae'r cyfrifoldeb am amddiffynfeydd llifogydd a rheoli llifogydd wedi'i ddatganoli, ond fe fyddan nhw'n rhyddhau mwy o arian y flwyddyn nesaf ar gyfer y gwaith.
Cost 'annheg' i gymunedau 'tlawd'
Wedi'r tirlithriad ym Mhendyrus, cafodd adolygiad ei gomisiynu, dolen allanol, dan arweiniad Llywodraeth Cymru a chydweithrediad yr Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn llunio rhestr o'r holl domenni glo a'u statws risg.
Yn eu llythyr at y Canghellor mae'r aelodau seneddol Chris Bryant, Beth Winter, Chris Elmore ac Alex Davies-Jones yn dweud bod y canfyddiadau'n dangos bod o leiaf 2000 o domenni, gyda'r rhan fwyaf yng nghymoedd y de.
Gallai'r gwaith o'u gwneud yn ddiogel gostio £500-600m dros 10 mlynedd, meddai'r llythyr, sy'n dadlau y byddai'n "anheg i'r cymunedau tlotaf yn y DU dalu'r costau'n llawn am y gwaith hwn".
Maen nhw'n codi pryderon y bydd na ddigwyddiad arall tebyg i'r tirlthriad ym Mhendyrus os na fydd fframwaith ar gyfer ariannu'r gwaith yn cael ei gytuno yn fuan.
Maen nhw'n galw hefyd ar i'r llywodraeth roi cymorth ariannol i gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer gwaith atgyweirio brys i bontydd, ffyrdd ac amddiffynfeydd llifogydd yn dilyn Storm Dennis.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud o'r blaen mai mater i Lywodraeth Cymru yw adfer y tomenni glo, gyda'r Prif Weinidog Boris Johnson yn galw arnyn nhw "fwrw ati".
Ond yn ôl Mick Antoniw, yr aelod dros Bontypridd yn y Senedd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU dderbyn cyfrifoldeb.
"Nes y digwyddiad yma roedd y rhan fwyaf ohonom yn credu bod y math yma o gofrestr o domenni glo yn bodoli'n barod. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen ei gywiro ar frys."
"Na'th Pendyrus ein deffro ni. A roedd y ffilm o'r glo yn llithro i lawr yn dod a llawer o atgofion trawmatig yn ôl i bobl Cymru."
"A mi allai'r risg fod yn fwy nag oedden ni'n credu - yn enwedig os ydyn ni'n mynd i gael mwy o dywydd garw fel hyn."
"Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn y gall. Ond mae'r gost o ddatrys y broblem hon yn mynd ymhell y tu hwnt i unrhyw gyfrifoldebau sydd ganddi."
Cymharu gydag Aberfan
Yn ôl yr hanesydd Dr Ben Curtis o Brifysgol Wolverhampton, sy'n arbenigo ar y meysydd glo, cafodd tir-lithriad Pendyrus effaith bwerus ar y gymuned.
"Fe nes i ymweld a'r safle a gweld y sgil-effeithiau. Dim ond o wneud hynny wyt ti'n cael dy daro gan raddfa'r tirlithriad", meddai.
"Mae digwyddiadau fel yma'n cydio mor gryf ym mhobl oherwydd, ar lefel sylfaenol iawn, mae pobl y Cymoedd yn gweld llithriad fel hyn ac yn meddwl nôl at drychineb Aberfan yn syth.
"A'r pryder hwnnw o beth allai ddigwydd eto."
Dweud bod yr amodau yng Nghymru yn ei gwneud yn fwy agored i'r math yma o dir-lithriadau mae Dr Ashley Patton, o Arolwg Daearegol Prydain.
"Yn ne Cymru mae gennym ni bwysau ychwanegol o lawer o wastraff glo yn eistedd ar ben y llethrau hynny sy'n ddeunydd sydd heb ei gywasgu a sy'n gallu llithro'n hawdd. Efallai mai dim ond gwaethygu hynny y gwneith newid hinsawdd."
Ond mae'n dweud bod atebion posibl amrywiol.
'Mae digon o ddewisiadau. O opsiynau peirianneg caled, sy'n edrych ar ailbroffilio'r llethrau.
"Gallwch ddefnyddio chwistrell concrit hylifol sy'n gludo'r llethr yn ôl gyda'i gilydd. Neu gallech chi fynd am bethau fel plannu llystyfiant i angori'r pridd yn ôl i'r ddaear.'
"Beth bynnag wnewch chi mae 'na gostau ynghlwm a hynny."
Cost 'sylweddol' dros 10 mlynedd
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod "rheoli hen lofannau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru", a'u bod nhw'n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol fel bod modd mynd i'r afael â phryderon diogelwch ar unwaith.
"Rydym hefyd yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU ynghylch etifeddiaeth tomenni glo," meddai'r datganiad," a'r costau sy'n gysylltiedig â delio â'r risgiau diogelwch cyhoeddus y maent yn eu peri.
"Mae'r materion hyn yn rhagddyddio datganoli, a bydd y gost o wneud y tomenni yn fwy diogel yn sylweddol dros y 10 mlynedd nesaf, yn enwedig o ystyried nifer y tomenni ledled Cymru.
"Er ein bod yn croesawu cyhoeddiadau diweddar gan Llywodraeth Prydain, â'u cydnabyddiaeth y bydd y costau tymor hir yn sylweddol, ni chafwyd unrhyw arian pellach, ac rydym yn parhau i'w pwyso am y swm cyflawn sydd ei angen, fel a gafodd ei addo gan y Prif Weinidog."
Fe ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau yr Awdurdod Glo, Carl Banton, yn yr Awdurdod Glo bod yr adolygiad o domenni hyd yn hyn wedi dangos bod "cyfran fawr o'r rhain yn risg fach ac isel" a'u bod yn bwriadu cychwyn ar raglen bellach o arolygiadau tomenni.
"Y gobaith yw y gellir cyhoeddi rhagor am yr adolygiad cyn diwedd y flwyddyn", meddai.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth y DU: "Byth ers i rannau o Gymru gael eu taro gan lifogydd dinistriol yn gynharach eleni, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu cefnogaeth ychwanegol ar gyfer lleddfu llifogydd ac amddiffyn y cymunedau yr effeithiwyd mor wael arnynt.
"Mae'r cyfrifoldeb am amddiffynfeydd llifogydd a rheoli llifogydd wedi'i ddatganoli ond, er bod angen i bob hawl fodloni meini prawf penodol, rydyn ni'n disgwyl darparu cyllid o gronfeydd Llywodraeth y DU ar gyfer 2020-21."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020