Llifogydd: Galw am arian gan Lywodraeth y DU er mwyn adfer
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad Llafur Cymru wedi galw ar y canghellor newydd i ariannu'r gwaith o adfer cymunedau yn ne Cymru yn dilyn y llifogydd diweddar.
Mewn llythyr at Rishi Sunak maen nhw'n gofyn am grant o £30m i dalu am waith ar draws Rhondda Cynon Taf.
Maen nhw hefyd eisiau i bobl sydd wedi'u taro gan y llifogydd i beidio gorfod talu treth cyngor a chyfraddau busnes am flwyddyn.
Mae'r aelodau yn cydnabod fod rhai materion wedi'u datganoli, ond maen nhw eisiau gweithredu ar lefel y DU.
'Nawdd ar frys'
"Rydyn ni'n credu yn yr Undeb, ac felly'n credu pan fo unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yn cael ergyd wael, y dylai'r DU gyfan helpu, dim ots beth yw'r rheolau ariannu arferol," meddai'r llythyr at y Trysorlys.
"Rydyn ni felly'n eich annog i ddarparu nawdd ar frys i Rondda Cynon Taf."
Mae'r llythyr wedi'i arwyddo gan bedwar AS - Chris Elmore (Ogwr), Chris Bryant (Rhondda), Beth Winter (Cwm Cynon) ac Alex Davies-Jones (Pontypridd).
Mae tri AC - Mick Antoniw (Pontypridd), Vikki Howells (Cwm Cynon) a Huw Irranca-Davies (Ogwr) hefyd wedi ychwanegu eu henwau at y cais.
Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, wedi'i arwyddo hefyd.
Yn ysgrifennu at Mr Sunak, wnaeth olynu Sajid Javid fel canghellor ychydig wythnosau yn ôl, mae'r gwleidyddion yn dweud y bydd trwsio ffyrdd, pontydd ac eiddo'r cyngor yn costio hyd at £30m.
"Mae hynny'n llawer mwy na'r hyn sy'n cael ei roi mewn arian cyfalaf i'r cyngor yn flynyddol - £13.4m," meddai'r llythyr.
"Mae'r difrod i eiddo preifat ar draws y sir yn debygol o fod yn agos at £150m."
Mae'r llythyr hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i ariannu arolwg brys o gymunedau pyllau glo de Cymru er mwyn mynd i'r afael â phryderon am dirlithriadau yn dilyn wythnosau o law.
Mae pyllau glo yn parhau dan ofal yr Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd Mr Bryant wrth BBC Cymru: "Heb gymorth ychwanegol fe allai Rhondda Cynon Taf golli ei holl arian wrth i ni ailadeiladu pontydd, ffyrdd ac amddiffynfeydd llifogydd."
'Asesu cost y difrod'
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gweithio "24 awr gydag asiantaethau er mwyn cadw pobl yn ddiogel" yn sgil y llifogydd.
"Mae £10m ar gael ar gyfer yr ymateb cychwynnol i'r stormydd," meddai.
"Mae'r arian yma ar gael yn syth, tra'n bod yn parhau i weithio ar asesu cost y difrod.
"Bydd hyn yn penderfynu pa gefnogaeth ariannol bellach sydd ei hangen, ac yn ddibynnol ar y swm hynny, byddwn yn troi at Lywodraeth y DU i ddarparu adnoddau."
Ychwanegodd y llefarydd y bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn trafod diogelwch pyllau glo a'r cymunedau sydd o'u hamgylch.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod mewn cysylltiad ynghylch y llifogydd "gydol yr wythnos ddiwethaf" gyda'r gwasanaethau brys, cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd: "Tra bod amddiffynfeydd llifogydd a'r ymateb i lifogydd yng Nghymru wedi eu datganoli, byddwn ni'n parhau i drafod a chefnogi Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â chymorth llifogydd a diogelwch tomenni glo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020