Y Dreigiau 'ar gau' am bythefnos yn sgil achosion Covid-19

  • Cyhoeddwyd
DreigiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dwy gêm nesaf y Dreigiau wedi'u gohirio a'r rhanbarth "ar gau" am bythefnos wedi i glwstwr o achosion Covid-19 ddod i'r amlwg yn y clwb.

Mae saith aelod o'r rhanbarth rygbi wedi cael prawf positif, gan arwain at y penderfyniad i gau'r clwb.

Mae hynny'n golygu bod y gêm yn erbyn Connacht y penwythnos hwn wedi'i gohirio, ynghyd â'r gêm yn erbyn Glasgow y penwythnos nesaf.

Fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru a'r Dreigiau wneud y penderfyniad i gau'r clwb ar y cyd wedi i'r achosion ddod i'r amlwg.

'Sicrhau iechyd pawb yn y clwb'

"Gan weithio'n agos a chael cefnogaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i gau'r rhanbarth am bythefnos, ac ni fydd ymarferon na gemau'n cael eu cynnal yn ystod y cyfnod yma," meddai cynghrair y Pro14.

"Gwnaed y penderfyniad er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb yn y clwb ac atal lledaeniad pellach.

"Bydd yn rhaid i holl chwaraewyr y tîm rheoli a staff y rhanbarth hunan-ynysu a dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru."

Daw'r newyddion wythnos wedi i aelod o staff y rhanbarth gael prawf positif, ond fe aeth y gêm yn erbyn Munster yn ei blaen am nad oedd unrhyw achosion positif ymysg y chwaraewyr.