Pro14: Gweilch 7-26 Leinster

  • Cyhoeddwyd
Rhys Ruddock yn cael ei daclo gan Adam Beard o'r GweilchFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Ruddock, a welir yma'n cael ei daclo gan Adam Beard, oedd yn arwain Leinster. Mae ei Dad, Mike, yn rhan o dîm hyfforddi'r Gweilch

Mae gallu ennillwyr y Pro-14 y tymor diwethaf, Leinster, i ddal gafael ar y gynghrair yn parhau wrth iddyn nhw chwalu'r Gweilch ar eu tomen eu hunain brynhawn dydd Sul.

Er taw'r Gweilch sicrhaodd pwyntiau cynta'r gêm, diolch i gais gosb gynnar, y Gwyddelod oedd ar y blaen ar yr hanner - o 19-7 - yn dilyn ceisiadau gan James Tracy, Dave Kearney a Scott Penny.

Fe sicrhaodd Peter Dooley bwynt bonws i Leinster, yr unig sgôr yn yr ail hanner.

Mae'r pumed buddugoliaeth o bump gêm yn cadw Leinster ar frig Grwp A, tra bod y Gweilch yn aros yn y trydydd safle.