Dim achos yn erbyn bwyty wedi cwyn am sŵn ac arogl

  • Cyhoeddwyd
Summer Palace, LlandafFfynhonnell y llun, Google

Mae perchennog bwyty Cantonaidd wedi disgrifio'i "ryddhad enfawr" na fydd Cyngor Caerdydd yn bwrw ymlaen gydag achos yn ei erbyn yn sgil cwyn dros sŵn ac arogleuon o'r safle.

Fe wnaeth Kwok Chim ymddangos mewn llys ym mis Chwefror i wadu dau gyhuddiad o dorri rheolau iechyd yr amgylchedd ym mwyty'r Summer Palace yn Llandaf.

Roedd barnwr a'i wraig wedi cwyno am y bwyty, sy'n edrych dros erddi hanesyddol Cadeirlan Llandaf, ar ôl prynu'r tŷ drws nesaf.

Dywedodd Cyngor Caerdydd fod y safle wedi cyrraedd y safonau angenrheidiol a bod dim budd cyhoeddus i barhau ag erlyniad

Roedd Mr Chim i fod i ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, wedi i wrandawiad ym mis Ebrill gael ei ohirio oherwydd y pandemig coronafeirws.

Dywedodd am benderfyniad y cyngor: "Mae'n rhyddhad enfawr. Er mai blwyddyn yn ôl y dechreuodd yr achosion llys, mae'r broses wedi bod yn mynd 'mlaen ers cwpl o flynyddoedd.

"Rydyn ni wedi bod ar gau am y saith mis diwethaf, ond wedi gallu ailagor ar gyfer tecawe. Gobeithio y gallwn ni edrych ymlaen at 30 mlynedd arall."

Yn ôl Cyngor Caerdydd, fe wnaeth y perchennog wneud gwelliannau i system awyru'r bwyty yn dilyn y gwyn.

Dymuniadau da'r achwynydd

Yr Arglwydd Ustus Syr Gary Hickinbottom a'i wraig yr Arglwyddes Georgina Caroline Hickinbottom oedd wedi cwyno i Gyngor Caerdydd am y sŵn a'r arogleuon o gegin y bwyty, ar ôl prynu'r tŷ drws nesaf yn 2016.

Yn 2018, daeth swyddogion gorfodaeth i'r casgliad bod yna sail i'w cwyn, ac roedd disgwyl gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.

Dywedodd datganiad ar ran Syr Gary Hickinbottom ei fod "yn falch bod y bwyty wedi cymryd camau yn ddiweddar i gydymffurfio â'r safonau cyfreithiol perthnasol, ac o ganlyniad mae ar ddeall fod y cyngor yn fodlon na fydd y bwyty'n torri'r rheolau mwyach ac felly ddim yn ei ystyried yn angenrheidiol i barhau gyda'r erlyniad.

"Mae'n sylweddoli bod hwn yn gyfnod anodd ac ansicr i fwytai, ac mae'n dymuno'n dda i berchnogion y Summer Palace ar gyfer y dyfodol."