Cynnydd eto yn y nifer sy'n ddi-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi codi i 4.6%, yn ôl ffigyrau sydd wedi'u rhyddhau ddydd Mawrth.
Dyma'r raddfa fwyaf o gynnydd ar draws y DU dros y tri mis diwethaf, er bod y ganran yn is na'r DU ar y cyfan.
Mae'r ffigyrau yn dangos bod 70,000 o bobl wedi bod yn ddi-waith yng Nghymru rhwng Gorffennaf a Medi - 28,000 yn fwy na'r tri mis cyn hynny.
Maen nhw hefyd yn dangos bod 42,000 o bobl yn llai mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â'r tri mis blaenorol, er bod mwy o fusnesau wedi gallu ailagor yn dilyn y cyfnod clo cyntaf.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod cynnydd hefyd yn nifer y bobl sydd ddim mewn gwaith, ond sydd ddim ar gael i weithio chwaith - gall hyn fod oherwydd eu bod yn sâl, yn gofalu am rywun neu'n fyfyrwyr.
Ledled y DU, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra dros dri mis ers Mai 2009, ac mae'r gyfradd ddiweithdra ar draws y DU bellach yn 4.8%.
Stori Steve
Roedd Steve Blundell o Gas-gwent yn gweithio i gwmni ymgynghori ac ymchwil technoleg cyn iddo golli ei swydd dair wythnos yn ôl.
Mae'n gweithio mewn maes lle mae'n arbenigo ar newid prosesau busnes ac otomeiddio, felly yn y dyfodol mae'n gobeithio bydd galw am ei sgiliau.
Ond yn y cyfamser does dim sôn am swydd newydd, ac nid yw chwaith yn gymwys ar gyfer y cynllun ffyrlo.
"Os yw eich swydd yn barod wedi mynd, neu wedi cael ei ystyried am redundancy oherwydd bod ffyrlo ar fin dod i ben, does dim help i gael," meddai wrth raglen y Post Cyntaf.
"Mae Llywodraeth Prydain nawr wedi newid ei meddwl am y cynllun saib swyddi ac ymestyn e, ond o dan y rheolau does dim achub y swyddi yna. Felly dyw e ddim yn helpu pobl fel fi."
Ychwanegodd: "Mae e'r math o waith sy' ddim yn digwydd ar y funud, dyw pobl ddim mewn sefyllfa i ddechrau pethe newydd."
Ar ddechrau'r flwyddyn roedd disgwyliadau'r cwmni roedd Steve yn gweithio iddo yn uchel.
Roedd sôn am ddyblu'r tîm yr oedd yn rhan ohono. Roedd digon o waith ac roedd pethau'n ffynnu.
Ond ers dechrau'r pandemig dyw hynny ddim yn digwydd ac "mae fel bod popeth wedi cwympo oddi ar y dibyn".
Ei ofn nawr yw y bydd cwmnïau yn mynd i'r wal yn ystod y pandemig a daw y swyddi yna ddim yn ôl.
"Dyw ffyrlo ddim wir yn diogelu busnesau," meddai. "Rhywsut mae angen cynllun i rewi busnesau fel bod e dal yn bodoli a dal gyda chi staff a chi gallu pigo pethe i fyny pan ddaw busnes nôl.
"Does dim ateb hawdd. Mae llawer iawn o bobl yn cwympo drwy'r craciau, a dwi yn pryderu am sefyllfa yr economi i'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020