Pro14: Caeredin 18-0 Gleision

  • Cyhoeddwyd
MurrayfieldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chris Dean yn cael ei daclo gan ganolwr yr ymwelwyr, Max Llewellyn

Fe gollodd y Gleision yn drwm i Gaeredin yn y niwl yn Murrayfield nos Lun.

Fe frwydrodd y prop Lee-Roy Atalifo drosodd i ychwanegu at gic gosb gynharach Nathan Chamberlain a rhoi Caeredin 10-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Ac wrth i niwl trwchus ddisgyn yn yr ail hanner, rhoddodd cais Dave Cherry y gêm y tu hwnt i'r Gleision.

Mae buddugoliaeth Caeredin - eu cyntaf o'r tymor adref - yn eu symud yn gyfartal gyda'r Gleision yn y Pro14.

Mae tîm Richard Cockerill yn drydydd yn Adran B, tra bod y Gleision yn aros yn ail ar wahaniaeth pwyntiau.