Ymchwiliad babanod Caer:Ail-arestio nyrs
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs wedi cael ei hail-arestio ar amheuaeth o lofruddio wyth o fabanod a cheisio llofruddio naw o fabanod eraill yn Ysbyty Iarlles Caer.
Cafodd Lucy Letby ei harestio gyntaf yng Ngorffennaf 2018 ac ym Mehefin y llynedd mewn cysylltiad gyda'r marwolaethau yn yr ysbyty sydd hefyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer trigolion gogledd ddwyrain Cymru.
Mae heddlu Sir Caer yn ymchwilio i farwolaethau 17 o fabanod rhwng 2015 a 2016.
Fe wnaeth yr heddlu ddweud bod teuluoedd o ogledd Cymru yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol, ond ni allant gadarnhau faint o'r marwolaethau oedd yn ymwneud â theuluoedd o Gymru
Mae Ms Letby, sy'n wreiddiol o Henffordd, yn parhau i gael ei holi yn y ddalfa.
Dywed yr heddlu fod yr achos yn un "hynod heriol."
"Mae'r rheini'r babanod wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddara ac maen nhw'n cael cymorth gan swyddogion arbenigol drwy gydol y broses," meddai'r ditectif arolygydd Paul Hughes.
"Mae hwn yn amser anodd ofnadwy i'r teuluoedd ac mae'n bwysig cofio hynny, yng nghanol hyn oll mae nifer o deuluoedd sy'n galaru ac yn ceisio atebion i'r hyn ddigwyddodd i'w plant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2019