'Anwybyddu hawliau dynol' ceisiwyr lloches ym Mhenalun

  • Cyhoeddwyd
Protestors outside Penally
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd tua 40 person rhan mewn protest tu allan y gwersyll

Mae dwsinau o ddynion sydd wedi cael eu cartrefi mewn gwersyll ym Mhenalun, Sir Benfro wedi cynnal protest dros eu hamodau byw.

Cynhaliodd y dynion brotest yn hawlio bod eu hawliau dynol yn cael eu hanwybyddu.

Mae fideo y mae'r ceiswyr lloches yn honni cafodd ei ffilmio tu fewn y gwersyll yn dangos toiledau a pheiriannau golchi wedi'u torri yna yn ogystal â chawodydd cymunedol.

Mae'r Swyddfa Gartref yn mynnu mai'r gwersyll yw'r opsiwn gorau tra bod ceisiadau'r ceiswyr lloches yn cael eu prosesu.

Cyrhaeddodd y ceiswyr lloches ar y safle dadleuol tua dau fis yn ôl.

Mae protestiadau arall - sydd wedi cael eu disgrifio fel lle i brotestwyr "asgell dde eithafol" - wedi cael eu cynnal dros benderfyniad y Swyddfa Gartref i roi lloches i lan at 250 o bobl yn y ganolfan.

Yn y cyfamser, cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys bod pum ceisiwr lloches wedi cael eu harestio ar ddrwgdybiaeth o ymosod yn dilyn aflonyddwch tu allan y gwersyll ar ddydd Mawrth.

'Fel carchar'

Dywedodd dau o'r dynion yn y gwersyll, oedd ddim eisiau cael eu henwi ond sydd o Syria a Palesteina, wrth BBC Cymru bod e'n le anaddas a bod pawb yna'n anhapus.

"Mae fel carchar - does dim preifatrwydd yn yr ystafell. Chwe pherson mewn ystafell - dyw e ddim yn ddiogel gyda coronafeirws. Mae bywyd yma'n wael iawn," dywedodd un.

Dywedodd y llall: "Rydyn wedi dianc o ryfel - dim i ddod i garchar. Ni angen rhyddid."

Cafodd y protest ei gefnogi gan aelodau lleol o'r mudiad Stand Up to Racism.

Mae Hellana Hetfield yn dweud bod angen dod o hyd i loches arall ar gyfer y dynion, ac mae hi'n hawlio eu bod nhw'n cael eu targedu gan brotestwyr asgell-dde eithafol.

"Mae pobl yn gweiddi arnyn nhw a'n dweud wrthyn nhw fynd nôl adref - mae'n ymddygiad annioddefol ac ar ben hynny, dydy e ddim yn saff," meddai.

Roedd protestwyr arall yn bresennol ym Mehnalun, yn galw ar geiswyr lloches i gael eu symud a'n hawlio nad yw'r safle yn addas.

Dywedodd un ohonyn nhw, oedd eisiau cael ei enwi'n "Waco", nad oedd y protest yn cymryd lle ar sail hil.

"Dyw e ddim am y dynion yn y gwersyll - dyw e ddim byd i wneud hefo nhw," meddai.

System 'wedi torri'

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartre bod y llywodraeth yn ystyried lles ceiswyr lloches a'r cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw yn ddifrifol iawn.

"Mae pob llety yn ddiogel, yn bwrpasol, gyda'r cyfarpar cywir ac yn unol gydag ein gofynion cytundebol.

"Mae'r system lloches wedi torri ac rydyn ni yn benderfynol o gyflwyno trefn newydd sydd yn deg ac yn gadarn. Fe fyddwn yn ceisio atal camddefnyddio'r system wrth sicrhau ei fod yn un dosturiol tuag at y rhai sydd angen ein help."