Protestio o blaid ac yn erbyn cartrefu ceiswyr lloches

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr sy'n gwrthwynebu derbyn ceiswyr lloches ym Mhenalun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 100 o'r protestwyr yn gwrthwynebu derbyn ceiswyr lloches ym Mhenalun

Mae protestiadau pellach wedi cael eu cynnal tu allan i wersyll hyfforddi milwrol yn Sir Benfro fydd yn cartrefu ceiswyr lloches am y 12 mis nesaf.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi sicrhau trefniant i gartrefu hyd at 250 o ddynion dros dro ar safle Gwersyll Hyfforddi Penalun.

Roedd tua 100 o'r protestwyr ddydd Sadwrn yn gwrthwynebu derbyn ceiswyr lloches a ffoaduriaid yno, a rhyw 50 o blaid cynnig cefnogaeth, er bod rhai ag amheuon ynghylch trefniadau'r cynllun.

Roedd o leiaf 25 o swyddogion Heddlu-Dyfed Powys ar ddyletswydd yno, gan greu rhwystr er mwyn cadw'r ddau grŵp ar wahân.

Disgrifiad o’r llun,

Tua 50 o bobl wnaeth ymuno â'r grŵp sy'n cefnogi rhoi cymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid

Fe wnaeth ceiswyr lloches ddechrau cyrraedd y safle ddydd Mawrth, er gwaethaf pryderon yn lleol fod yna ddiffyg ymgynghori ynghylch y cynllun.

Mae nifer o brotestiadau wedi cael eu cynnal yn yr wythnos ddiwethaf, gyda grwpiau yn gwrthwynebu'r cynllun yn llwyr ac eraill yn croesawu ceiswyr lloches ond yn credu nad yw'r safle'n briodol.

Dywedodd un protestiwr, nad oedd yn dymuno i'r BBC gyhoeddi ei henw, ei bod "ddim yn hiliol" ond ei bod yn bryderus ynghylch nifer y mudwyr sy'n cael eu cludo i'r gwersyll.

Dywedodd Sue Hagerty, oedd gyda'r ail grŵp, ei bod yna i "roi croeso" i'r ceiswyr lloches.

Disgrifiad o’r llun,

Negeseuon o groeso a gafodd eu gosod wrth fynedfa'r safle yn gynharach yn yr wythnos

"Yr unig wahaniaeth rhyngddyn nhw a ni yw lwc," meddai. "Petawn i yn yr un sefyllfa ac yn gorfod ffoi i wlad arall, byddwn yn gobeithio y bydden nhw yma i'm croesawu i."

"Mae pobl tu allan yn rhegi arnyn nhw ac yn dweud nad ydyn nhw eisiau bod yma ddim yn mynd i greu awyrgylch bositif a dyw e ddim yn mynd i helpu neb."

Ond dywedodd ei bod yn deall rhai o bryderon pobl leol.

"Doedd yna ddim ymgynghori o gwbl... Gallen nhw fod wedi siarad efo pobl leol am beth roedden nhw'n meddwl fydde'n gweithio a helpu i wneud iddo weithio. Ond cafodd ei wthio ar bobl - roedd yn sioc lwyr."

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod yr angen i weithredu ar frys wedi gwneud hi'n amhosib i ymgynghori o flaen llaw ar yr achlysur hwn.