Ymgeiswyr lloches Penalun: 'Nid milwyr ydyn ni'

  • Cyhoeddwyd
ymgeiswyr lloches
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y criw eu bod ond wedi cyrraedd Penalun ddydd Mercher

Mae ymgeiswyr lloches sydd wedi cael eu cartrefu ym Mhenalun yn Sir Benfro wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi'u syfrdanu wrth gael eu gosod mewn gwersyll ar gyfer hyfforddi milwyr.

Dywedodd grŵp o ddynion sy'n wreiddiol o Irac ac Iran eu bod wedi cael eu rhoi mewn amryw o safleoedd ers dod i'r DU rai misoedd yn ôl, ond mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael eu gosod mewn safle milwrol.

Dywedodd un o'r criw, nad oedd am gael ei enwi: "Nid milwyr ydyn ni - ry'n ni'n beiriannydd, yn feddyg, yn nyrs, yn athro.

"Maen nhw wedi dweud wrthym am gysgu chwech i bob caban, ond mae'n oer ac yn amhosib cadw pellter cymdeithasol."

Ychwanegodd mai dyma'r tro cynta iddyn nhw beidio bod yn rhydd i grwydro, gan eu bod y tu ôl i ffens uchel yng ngwersyll Penalun, ger Dinbych-y-pysgod, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddweud wrth y staff os ydyn nhw am fynd allan.

Mae hynny'n wahanol i'w cartref diwethaf ym Mryste, meddai.

Dywedodd un o'r criw ei fod wedi ffoi o ardal rhyfel, a'i fod yn teimlo fod bod mewn gwersyll hyfforddi milwrol yn drallodus.

'Anaddas'

Mae penderfyniad y Swyddfa Gartref i osod ymgeiswyr lloches yng ngwersyll Penalun wedi cael ei ddisgrifio fel "anaddas" gan brotestiwr heddychlon a ddaeth i groesawi'r dynion, ac ychwanegodd fod y safle "yn gwbl amhriodol i bobl fregus sydd wedi ffoi rhag braw a dioddefaint".

Cytunodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y safle yn anaddas, ond rhoddodd y bai ar y Swyddfa Gartref am y modd y gwnaethon nhw ddelio gyda'r sefyllfa.

Dywedodd fod ei gais am oedi am bythefnos cyn yr ail-gartrefu wedi cael ei wrthod.

Disgrifiad o’r llun,

Nwyddau'n cael eu cludo i'r gwersyll ddydd Llun

Mae'r grŵp wedi cael gwybod y byddan nhw ym Mhenalun am tua blwyddyn "felly dyw hwn ddim yn llety dros dro".

"Does gyda ni ddim byd yn erbyn y lleoliad... ry'n ni'n teimlo'n ddiogel, ond nid milwyr ydyn ni. Plis, fedrwn ni ddim aros fan hyn."

Am rai dyddiau, bu'r gwersyll yn destun protestiadau gan bobl oedd yn gwrthwynebu a rhai oedd yn croesawu'r ymgeiswyr lloches.

Dywedodd y dynion a siaradodd gyda BBC Cymru eu bod ond wedi cyrraedd ddydd Mercher.

'Amodau diogel'

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Yn y cyfnod digynsail yma rydym wedi gweithio'n gyflym i ddarparu llety addas i ymgeiswyr lloches - fel y mae'r gyfraith yn gofyn i ni wneud.

"Yn dilyn adolygiad o eiddo'r llywodraeth sydd ar gael, fe gytunodd y Weinyddiaeth Amddiffyn drosglwyddo dau o'u safleoedd i ni dros dro, yng Nghaint a Sir Benfro, sydd nawr yn cael ei defnyddio i gartrefu ymgeiswyr lloches.

"Does neb sy'n aros yn y safleoedd yma'n cael eu cadw yn erbyn eu hewyllys. Mae ymgeiswyr lloches yn cael mynd a dod o'r llety, ac maen nhw'n aros mewn amodau diogel sy'n cydfynd â gofynion Covid, yn unol â'r gyfraith a gofynion cadw pellter."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys wedi mynnu ymddiheuriad gan y Swyddfa Gartref

Ymddiheuriad

Yn y cyfamser mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn wedi galw am ymddiheuriad cyhoeddus gan y Swyddfa Gartref i drigolion Sir Benfro am y "diffyg cyfathrebu am ddefnydd y gwersyll ym Mhenalun."

Dywedodd: "Mae'r diffyg cynllunio, cyfathrebu, ymgynghori a gwybodaeth, yn gwbl annerbyniol, ac yn dangos diffyg parch nid yn unig at y trigolion lleol ym Mhenalun a'r ardal gyfagos yn Sir Benfro, ond hefyd diffyg parch at ddarparwyr gwasanaethau lleol a phartneriaid.

"Ni fu unrhyw eglurder ynghylch y cynlluniau ac ymgysylltu annigonol i sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn diogelu'r unigolion bregus hyn tra'n mynd i'r afael â phryderon lleol hefyd, ac rwyf bellach yn mynnu bod y Swyddfa Gartref yn ymddiheuro i'r trigolion lleol am eu diffyg parch."

Ychwanegodd: "Mae wedi cael ei adael i'n hasiantaethau lleol gan gynnwys yr heddlu i godi darnau'r oherwydd y penderfyniad anymarferol hwn gan y Swyddfa Gartref ac felly rwy'n gofyn am ymddiheuriad uniongyrchol. Nid yw'r ffordd yma o weithio yn dderbyniol."