Diwali: Gŵyl y Goleuni wahanol i'r arfer eleni
- Cyhoeddwyd

Mae tân gwyllt wedi creu llygredd aer mewn dinasoedd mawr fel Delhi
Bydd un o'r gwyliau crefyddol mwyaf poblogaidd yn y byd yn wahanol iawn i'r arfer i ddilynwyr eleni oherwydd effaith Covid-19.
Gŵyl Hindŵaidd sy'n cynrychioli buddugoliaeth goleuni dros dywyllwch, neu'r da dros y drwg, yw Diwali, ac mae hefyd yn cael ei dathlu gan ddilynwyr Bwdha, Hare Krishna, Siciaeth, a Jaim.
Mae'r ŵyl flynyddol, sy'n para pum diwrnod, yn dechrau ddydd Sadwrn.

Dathliad Diwali yn Nheml Shree Swaminarayan Caerdydd
Mae Swyddfa Conswl Anrhydeddus India wedi gorfod canslo'i barti blynyddol yng Nghaerdydd, gan gynnal wythnos o ddigwyddiadau Diwali rhithwir yn hytrach ar y cyd â Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei fod yn gyfle i gyfleu "dymuniadau cynnes i'r gymuned Indiaidd yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Wrth i ni ddathlu'r ŵyl, gadewch i ni edrych ymlaen gyda gobaith at ddyfodol mwy positif wedi'r argyfwng presennol."
Llygredd aer o dân gwyllt
Fel rhan o'r dathliadau mae pobl yn addurno eu cartrefi gyda goleuadau, ac mae tân gwyllt yn chwarae rhan amlwg.
Mewn gwyliau diweddar mae cymaint o dân gwyllt wedi cael ei danio mewn dinasoedd mawr fel Delhi yn India nes ei fod wedi achosi llygredd aer, ac mae'r llywodraeth wedi eu gwahardd yno eleni.
Gyda 124,000 o farwolaethau Covid-19 yn India, mae'r prif weinidog, Narendra Modi, wedi galw am bwyll wrth baratoi am Ŵyl y Goleuni.

Mae Mohini Gupta wedi dysgu Cymraeg ers ymweliad ag Aberystwyth
Yn 2017 treuliodd Mohini Gupta o Delhi dri mis yn Aberystwyth ar ôl ennill cymrodoriaeth ysgrifennu creadigol a chyfieithu.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn ystod ei hymweliad, ac ers hynny mae hi wedi ymweld â Chymru deirgwaith ac mae hi bellach yn rhugl yn yr iaith.
Mewn cyfweliad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru ddydd Sul diwethaf, dywedodd Mohini Gupta y byddai dathliadau Diwali'n wahanol iawn eleni.
Byddai teuluoedd yn dal i allu dod at ei gilydd i ddathlu'r ŵyl, meddai, ond ni fydd y dathliadau cyhoeddus arferol yn digwydd.
Addasu'r dathliadau
"Mae'r achosion o Covid-19 yn Delhi wedi codi i 6,000 y dydd, felly dydy hynny ddim yn mynd i fod yn bosib," meddai.
"Mae pobl yn dathlu ar-lein wrth gwrs.
"Dwi ddim yn siŵr os ydy Diwali yn fwy arwyddocaol eleni ond dwi'n meddwl y bydd pobl isio cael eu hatgoffa fod posib i'r da ennill yn erbyn y drwg a bod goleuni yn gryfach na thywyllwch."

Mae Diwali yn dathlu buddugoliaeth goleuni dros y tywyllwch, neu'r da dros y drwg
Yn y deml ym Mae Caerdydd mae dilynwyr Hare Krishna hefyd yn paratoi i ddathlu Diwali gwahanol.
Dywedodd un o'r mynachod, Gopi Roman, eu bod am geisio addasu yn hytrach na dathlu ar-lein yn unig.
"Be sy'n debygol o ddigwydd yw y bydd pobl yn cael eu gwahodd i'r deml... ychydig o bobl ar y tro, a byddwn yn rhoi bwyd iddyn nhw ac yn eu danfon nhw i ffwrdd, achos dy'ch chi methu cael pawb yn yr adeilad yr un pryd," meddai.
"Bydd yn cael effaith ond ry'n ni'n addasu i'w wneud e'n bosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020