Yn benderfynol o briodi, er gwaethaf Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Cunedda a PattyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Bu 2020 yn flwyddyn siomedig i filoedd o gyplau ledled y wlad a orfodwyd i ohirio neu ganslo eu priodasau. Ond, roedd un cwpl yn benderfynol o glymu cwlwm cariad a pheidio gadael i gyfyngiadau Covid-19 amharu ar eu cynlluniau priodasol.

Ar 30 Medi 2020, priododd Cunedda Rhys ap Rhisiart o Fryncir a Patricia Noemi Diaz o Lima, Peru yn eglwys Sant Edwen, Ynys Môn - y briodas ymbellhau cymdeithasol gyntaf yn y sir.

Siaradodd y pâr priod gyda Chymru Fyw am yr hyn a'u gyrrodd i addasu'r trefniadau a chynnal y briodas dan gyfyngiadau llym Llywodraeth Cymru.

"Mi nes i a Patty gyfarfod dros y we - dyna sut mae pethau dyddia' yma. O'n i'n gwybod yn syth mai hi oedd yr un. Eisiau cadw traddodiad, aethon ni i Peru i mi gael cyfarfod ei theulu a gofyn wrth ei thad am ei llaw."

Meddai Patty, "Gofynnodd Cunedda i mi ei briodi sawl gwaith, y tro cyntaf chwe diwrnod ar ôl i ni gyfarfod! Ond daeth y proposal go iawn ym mis Mai 2018.

"Ar ôl gofyn caniatâd i 'nhad, fe aeth â mi i patisserie ffansi yn Lima. Wedyn, ar falconi yn nhŷ fy nhad, a ninnau'n edrych dros y môr, mi ofynnodd i mi. Roedd hi'n noson arbennig iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Patty a Cunedda yn Peru ble ddyweddïon nhw yn 2018

Tra roeddent yn Peru cafodd eu bwriad i briodi ei fendithio mewn seremoni Inca sy'n rhan o draddodiad o'r Andes - seremoni'r Offeren i'r Fam Ddaear - gan offeiriad diwylliant hynafol.

Yn fuan wedi hynny, aeth y cwpl ati i drefnu'r briodas ac roedd ganddyn nhw weledigaeth gadarn o'r hyn roedden nhw eisiau ei wneud. Roedd 30 Medi 2020 yn y calendr o'r dechrau gan fod Patty eisiau cwblhau ei gradd meistr yn y gyfraith cyn y diwrnod mawr.

Newid trefniadau

Yna ym mis Mawrth 2020 daeth pandemig byd-eang i simsanu'r trên cynllunio priodasol oedd wedi bod yn teithio ers bron i ddwy flynedd.

"Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn ocê," meddai Patty. "Roedd gan y ddau ohonom weledigaeth debyg o sut dylai'r diwrnod fod. Roedd y ddau ohonom eisiau priodas fechan mewn eglwys. Rhoddodd Cunedda a minnau ein bryd ar Eglwys Sant Edwen ger Llanfairpwll pan fuon ni yno i wasanaeth Nadolig gyda'n plant."

Ffynhonnell y llun, Martin Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Dymuniad Cunedda a Patty oedd priodi yn Eglwys Sant Edwen

Doedd hyd yn oed rheolau llym Llywodraeth Cymru ddim am sbwylio eu diwrnod mawr.

"Pan wnaethon ni sylwi ar effaith byd-eang Covid fe benderfynon ni leihau'r rhestr gwesteion ym mis Mehefin i ddim ond 26 o bobl. Roedden ni'n gwybod ei fod o'n mynd i fod yn anodd ond roedden ni am briodi, hyd yn oed os mai dim ond ni a'n plant fyddai yno.

Bwrw ymlaen ac addasu

"Roedd 'na bwysau arnom i wneud yn siŵr fod popeth yn saff. Fe wnes i gysylltu â'r ASau lleol yn ogystal â'r Bwrdd Iechyd Cyhoeddus gan egluro manylion y diwrnod iddynt er mwyn cael cyngor cyn gynted â bo' modd.

"Bu rhaid i ni roi notice of marriage yn Chelsea gan fod pob cofrestrydd yng Nghymru, ar y pryd, wedi cau, felly ym mis Awst, fe aethom i Lundain."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn Chelsea yn 'nôl tystysgrif hysbysiad priodas

Am fod y ddau eisiau, ac angen, rheolaeth lwyr dros y diwrnod fe huriodd y cwpl blas ar ystâd ger Llanfairpwll. Roedd pob cyflenwr ar gyfer y briodas yn fusnesau lleol hefyd gan gynnwys dylunydd y modrwyau a'r siop ble cafodd Patty ei ffrog.

Creodd y ddau wefan arbennig ar gyfer y briodas lle'r oedd modd iddynt ddiweddaru'r gwesteion gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer y briodas a'r rheolau cadw pellter.

"Trefnon ni'r diwrnod fel y byddai mor relaxed ag oedd yn bosib i bawb," meddai Patty. "Mesuron ni'r eglwys a'r plas lle fyddai'r brecwast priodas yn digwydd.

"Roedd rhaid ufuddhau i reolau ymbellhau cymdeithasol ac felly roedd rhaid mesur y byrddau hefyd! Roedd pob bwrdd yn 'swigen deuluol' felly gweithiodd pethau allan yn dda.

"Cyn i bobl fynd mewn i'r eglwys fe brofon ni eu tymheredd nhw, ac eto wedyn cyn y parti p'nawn. Fe welwch chi hefyd fod pawb wedi'u gwasgaru yn yr eglwys yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru ar y pryd."

Ffynhonnell y llun, Martin Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu a ffrindiau'r pâr priod yn gorfod cadw pellter yn yr eglwys

"Pan rwyt ti'n ystyried iechyd a lles dy deulu a'r atgofion sy'n cael eu creu ar y diwrnod yna does dim un rheol yn anodd i'w dilyn.

"Dw i ddim yn meddwl fod Covid wedi effeithio ar ein diwrnod yn ormodol, er efallai y bydden ni wedi mwynhau cael mwy o hygs gan y teulu!

"Er gwaetha Covid," ychwanega Patty, "roedden ni eisiau diwrnod mor draddodiadol â phosib. Dw i'n meddwl i ni wneud job dda ohoni! Cawson ni ddiwrnod anhygoel."

Ffynhonnell y llun, Martin Vaughan

Hefyd o ddiddordeb: