Mwy o gleifion Covid-19 nag erioed yn ysbytai Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o gleifion mewn ysbytai yng Nghymru gyda Covid-19 nag ar unrhyw adeg.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 1,529 o welyau yn cael eu defnyddio - 20% o'r holl gleifion yn yr ysbyty.
Mae 983 o'r gwelyau yma wedi'u meddiannu gan gleifion sydd gyda Covid-19 wedi'i gadarnhau.
Ond mae llai o gleifion mewn gofal critigol neu ar beiriannau anadlu nag oedd yna ar frig y don gyntaf - 40% o'r lefelau hynny.
Daw wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod 34 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi o fewn y 24 awr ddiwethaf.
Mae'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau sydd wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2,142.
Cafodd 867 o achosion newydd eu cofnodi yn yr un cyfnod, gan wthio'r cyfanswm yng Nghymru i 63,151.
Mae oddeutu traean o'r holl gleifion Covid yng Nghymru yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, lle adroddwyd bod mwy na 530 o achosion yn gysylltiedig ag achosion o heintiau o fewn pum ysbyty.
Ond er bod niferoedd is, mae'r cynnydd mewn cleifion i'w weld fwyaf yn Betsi Cadwaladr (i fyny 48%), Bae Abertawe (i fyny 23%) a Hywel Dda (i fyny o draean) yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
14% i fyny ers yr wythnos flaenorol
Nifer y cleifion Covid yn yr ysbyty (ar 10 Tachwedd) oedd 1,529 ledled Cymru. Mae hyn 14% i fyny yn gyffredinol ar yr wythnos flaenorol.
Roedd mwy na 6,200 o gleifion yn yr ysbyty o hyd gyda chyflyrau eraill - sydd dair gwaith cymaint â phan gafodd llawfeddygaeth a thriniaethau eu canslo yn ystod anterth y don gyntaf.
O'r rheini, cadarnhawyd bod 983 yn gleifion Covid-19, roedd 251 o gleifion yn cael eu hamau o fod â'r feirws, tra bod 295 yn gwella o'r cyflwr.
Amcangyfrifodd GIG Cymru fod angen gofal critigol ar tua 12% o'r derbyniadau, o'i gymharu â 30% yn ystod y don gyntaf yn y gwanwyn.
O'r rhain, roedd 19 yn ardal Cwm Taf Morgannwg, 15 ym Mae Abertawe, 12 yn Aneurin Bevan, 11 yng Nghaerdydd a'r Fro, naw yn Betsi Cadwaladr a dau yn Hywel Dda.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020