Brechlyn Covid: 'Cymru i benderfynu sut i'w ddefnyddio yma'

  • Cyhoeddwyd
brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images

Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut y bydd brechlyn Covid-19 yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru pan fydd ar gael, medd y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Yn gynharach dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, fod canfyddiadau cychwynnol "positif" yn awgrymu y gallai brechiad atal 90% o bobl rhag cael y feirws.

Ond ychwanegodd ei bod yn "ddyddiau cynnar iawn, iawn".

Wrth siarad ar raglen Wales Today, dywedodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth y DU yn prynu unrhyw frechlyn "ar ran y DU gyfan ac fe fyddwn ni'n cael ein siâr i'r boblogaeth".

"Dyna beth sydd eisoes wedi cael ei gytuno, a phan ddaw'r brechlyn i Gymru, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd storio'r brechlyn ac yna'i ddosbarthu fel y gall gael ei ddefnyddio gan boblogaeth Cymru," meddai.

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Ni wedyn fydd yn penderfynu sut i'w ddefnyddio, a sicrhau fod hynny'n cael ei wneud yn y ffordd orau posib."

Mae'r brechlyn dan sylw wedi cael ei ddatblygu gan gwmnïau fferyllol Pfizer (o'r Unol Daleithiau) a BioNTech (o'r Almaen).

Yn gynharach ddydd Llun, yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru, fe groesawodd Mr Drakeford y newyddion ond ychwanegodd na fyddai hyn yn debygol o olygu diwedd llwyr ar y feirws.

"Mae hyn yn newyddion da wrth gwrs, pe bai unrhyw frechlynnau sy'n cael eu treialu yn gwneud cynnydd," meddai.

"Fe fyddwn wrth sgwrs am weld natur unrhyw frechlyn, faint o ddiogelwch mae'n cynnig i bobl, ac am ba hyd.

"Ond wrth gwrs, mae'n rhaid croesawu unrhyw frechlyn sy'n dod i'r fei ar ôl treialon oherwydd bydd hyn yn cynnig posibiliadau ar gyfer y dyfodol."