Cyhuddo dyn o lofruddiaeth Terence Edwards yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 41 oed o Wrecsam wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth dyn a gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref.
Cafodd Terence Edwards ei ganfod yn ardal Parc Caia yn Wrecsam ar 1 Mehefin.
Ar y pryd, dywed Heddlu Gogledd Cymru fod Mr Edwards wedi marw ar ôl cael anaf i'w ben.
Fe wnaeth Barry Bagnall ymddangos yn y llys ddydd Gwener wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Ni wnaeth gyflwyno ple ond awgrymodd ei gyfreithiwr y byddai'n gwadu'r cyhuddiadau. Cafodd ei gadw yn y ddalfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020