Cymro yn nodi bod y Falklands yn rhydd o fomiau tir
- Cyhoeddwyd
Bydd meddyg o Gymru sydd wedi ymgartrefu ar Ynysoedd y Falklands yn rhan o ddathliadau arbennig a fydd yn nodi bod y traeth olaf ar yr ynysoedd yn rhydd o fomiau tir.
Dywed Dr Barry Elsby y bydd yn foment rhyfeddol wrth i draeth Yorke ger y brifddinas, Stanley gael ei "adfer".
Yn 1982, adeg Rhyfel y Falklands, cafodd nifer o fomiau tir eu gosod yno gan luoedd Yr Ariannin.
Dywed Dr Elsby, sydd bellach yn aelod o lywodraeth Ynysoedd y Falklands, y bydd nifer yn cerdded ar hyd y llwybr hwn am y tro cyntaf.
"Mae gen i ffrindiau sydd wedi cael eu geni wedi 1982 a dydyn nhw erioed wedi cerdded ar y traeth," meddai.
Roedd Dr Elsby yn arfer byw ar Lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint pan yn ifanc ond yn 1990 aeth i fyw i Ynysoedd y Falklands wedi iddo gael swydd dwy flynedd yno.
Ond fe gwympodd e a'i wraig Bernadette, sydd hefyd yn gweithio yn y byd meddygol, mewn cariad â bywyd yr ynys a 30 mlynedd yn ddiweddarach mae'r ddau yn parhau i fyw yno.
"Ry'n yn edrych ymlaen at ailennill y traeth drwy ffrwydro y bomiau tir diwethaf," meddai Dr Elsby.
"Bydd hefyd yn ddiweddglo i'r bobl a oedd yn byw yma yn ystod y rhyfel, ar gyfnod cythryblus dechrau'r 80au.
"Mae'r arwyddion am y bomiau tir wedi bod yn atgof parhaus o'r hyn ddigwyddodd, ond wrth iddyn nhw ddiflannu mae'n gam arall tuag at fywyd normal.
"Yn sicr mae'n ddatblygiad i'w groesawu, a dwi'm yn meddwl y byddai unrhyw un yn credu y byddai wedi gallu digwydd."
Amcangyfrifir bod 13,000 o fomiau tir wedi'u claddu ar draws yr ynysoedd yn ystod y rhyfel.
Mae rhaglen i'w symud wedi cychwyn ers 2009 - rhaglen sydd wedi'i chyllido gan Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
"Do'n i byth yn meddwl y byddai'r ynysoedd yn rhydd o fomiau tir felly mae hwn yn newid pwysig iawn," meddai Dr Elsby.
"Ond yn fwy pwysig na dim - does neb wedi cael ei anafu'n ddifrifol wrth wneud hyn, sy'n dweud llawer iawn am y tîm sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith am gymaint o flynyddoedd.
"Mae'r cyfan yn dweud llawer hefyd am y bobl sy'n byw yma. Doeddwn i ddim yn bwriadu aros ond fe gawson ni gymaint o groeso yn 1990 gan y gymuned a rŵan dwi'n aelod o'r Cynulliad Deddfwriaethol."
Ond dywed bod y cysylltiadau â Chymru yn parhau yn gryf, er ei fod 8,000 milltir i ffwrdd.
"Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf rwyf wedi bod yn gosod torchau yn Fitzroy lle cafodd cymaint o'r Gwarchodlu Cymreig eu lladd neu eu hanafu, a bydd y cysylltiadau yna yn parhau am byth," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017