Sêl bendith i gynllun dadleuol i godi 107 o dai
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun dadleuol i godi 107 o gartrefi ger pentref yn Sir Conwy wedi cael ei gymeradwyo.
Bydd y tai'n cael eu hadeiladu ar dir rhwng yr A470, Ffordd Llanrwst a Ffordd Dop Llan ger Glan Conwy.
Cafodd cais Calon Homes - sy'n ganlyniad partneriaeth rhwng cwmni Brenig Construction a chymdeithas dai Cartrefi Conwy - ei ohirio ym mis Mawrth.
Roedd trigolion a chynghorwyr wedi codi pryderon ynghylch safon y cartrefi, colli tir gwyrdd a thrafferthion traffig.
Un o'r gwrthwynebwyr oedd Rhian Roberts.
"Mae pobl angen gofod gwyrdd ansawdd uchel ac mae'r datblygiad yma'r rhwygo coetwrych," dywedodd wrth aelodau pwyllgor cynllunio'r sir.
Dywedodd cyfarwyddwr y cwmni adeiladu fod swyddogion "wedi cadarnhau bod unrhyw ofynion statudol wedi'u delio â nhw".
Roedd Cyngor Cymuned Glan Conwy'n gwrthwynebu ar sawl sail, gan gynnwys yr effaith bosib ar wasanaethau meddyg teulu, traffig a'r ysgol leol.
Dywed y cyngor fod amod Llywodraeth Cymru'n golygu na chaiff y datblygwyr ddechrau codi'r stad nes bydd gwaith wedi'i gwblhau ar y mynediad i'r safle o'r A470.
Bydd 30% o'r cartrefi yn rhai fforddiadwy.