Arestio dyn wedi i gerddwr farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i gerddwr gael ei ladd ar ôl cael ei daro gan gar yn Sir Caerffili.
Cafodd y cerddwr, dyn 30 oed o Gwmbrân, ei daro gan gar Mercedes AMG du ar yr A468 ym Machen, rhwng Caerffili a Chasnewydd, tua 20:35 nos Wener.
Roedd yn cerdded i gyfeiriad Caerffili.
Cafodd dyn 25 oed o ardal Casnewydd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Roedd rhan o'r ffordd ar gau dros nos wedi'r digwyddiad.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth.