Pro14: Munster 38-22 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes y Gweilch yn Limerick wrth wedi i Gavin Coombes sgorio tri chais i gynnal record ddiguro Munster yn y Pro14 .
Y Gweilch wnaeth sgorio pwyntiau cyntaf y gêm, diolch i gais cynnar Luke Morgan.
Ond wedi cais cyntaf Coombes a cheisiau canlynol Mike Haley a Kevin O'Byrne, roedd y tîm cartref 24-10 ar y blaen erbyn yr egwyl.
Tiriodd Coombes ddwywaith yn yr ail hanner, ac fe sgoriodd Dewi Lake ail gais y Gweilch, cyn i'r ymwelwyr gais cais gosb.
Daeth gweddill pwyntiau'r Gweilch drwy gicio Stephen Myler.
Wedi dwy fuddugoliaeth yn unig wedi chwe gêm, mae'r Gweilch yn nhrydydd safle Adran A, ymhell tu ôl i Leinster ac Ulster.
Ar ôl sicrhau pwynt bonws, mae Munster wyth pwynt o flaen y Scarlets ar frig Adran B.