Cartref gofal yn Aberystwyth yn wynebu 'sefyllfa anodd'
- Cyhoeddwyd
Dywed caplan cartref gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth bod y sefyllfa sy'n wynebu staff, preswylwyr a'u teuluoedd yn "hynod o anodd" ond bod pawb yn gwneud eu gorau i ymdopi â chyfnod na welwyd ei debyg.
Mae'r sefyllfa yn y cartref, sy'n cael ei redeg gan elusen Methodist Homes, yn parhau i fod yn "heriol" medd Cyngor Ceredigon ac mae'r awdurdodau yn parhau i ddelio ag achos "sylweddol" o Covid-19.
Dywedodd y Parchedig Ingrid Rose, a gafodd brawf positif Covid ei hun ddydd Sul: "Y trigolion gwannaf sydd wedi cael eu taro waethaf ac mae'n drist iawn gweld pawb yn gorfod aros yn eu hystafelloedd eto a pheidio gweld neb arall."
Does dim manylion am nifer yr achosion ond mae oddeutu 90 o drigolion yn cael gofal yn y cartref.
"Mae'r hyn sydd wedi digwydd mor drist," meddai'r Parchedig Rose wrth siarad â Cymru Fyw, "gan ein bod ni gyd wedi bod mor ofalus.
"Mae'n teimlo fel bod rhyw don wedi bod yn ein bwrw ers tro a bod y don wedi llwyddo i dorri trwyddo yn diwedd.
"Mae'r pythefnos diwetha 'ma wedi bod yn hynod o anodd ond mae'r staff yn hollol wych.
"Dwi fel arfer yn mynd mewn i'r cartref fel caplan ryw bedair gwaith yr wythnos. Yn ystod y dyddiau ers i Covid gyrraedd ry'n ni wedi gorfod ymdopi gyda threfn hollol newydd wrth gwrs gyda phrofion cyson.
'Prawf positif Covid yn sioc'
"Mi oeddwn i'n teimlo braidd yn anwydog fore Sul ond roedd yn sioc fawr clywed bo fi wedi cael prawf Covid positif.
"Does gen i ddim gwres na fawr o symptomau eraill ar hyn o bryd - dwi innau fel pawb arall wedi ceisio bod yn hynod o ofalus gan wisgo PPE a diheintio yn gyson.
"Mae gen i angladd ddiwedd yr wythnos ond yn amlwg fyddai'm yn gallu bod yng ngofal hwnna nawr wrth i fi orfod hunan-ynysu.
"Mae nifer o'r trigolion â dementia ac felly dydyn nhw ddim yn llwyr ymwybodol be sy'n digwydd ond mae nhw'n colli cwmni ei gilydd a pheidio â gweld perthnasau. Roedd rhai ohonyn nhw wedi dechrau gweld perthnasau yn ystod misoedd yr haf.
"Roeddwn i'n falch o gael mynd â phaned iddyn nhw i'w hystafelloedd ond fyddai'm yn gallu 'neud hynna nawr am gyfnod. Dwi wedi bod yn cynnal gwasanaethau cyson pan oedd hynny'n bosib.
"Mae e wir fel ryw war zone a mor anodd i bawb - mae e hefyd yn dipyn o sioc i ni yma yng Ngheredigion," ychwanegodd Ingrid Rose.
Rhoddion yn y ganolfan gymunedol
Dywed Cyngor Ceredigon fod Tîm Rheoli Achosion aml-asiantaeth wedi cael ei sefydlu i ymateb i'r digwyddiad ac bod Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu cymorth ychwanegol i'r cartref.
Ddiwedd yr wythnos fe wnaeth yr AS lleol Elin Jones anfon neges yn dweud ei bod yn meddwl am bawb sy'n gysylltiedig â'r cartref.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ychwanegodd Cyngor Ceredigion bod trefniadau wedi cael eu gwneud i alluogi aelodau o'r teulu a ffrindiau i fynd ag unrhyw roddion neu gyfraniadau i Ganolfan Gymunedol Waunfawr, Aberystwyth ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10:00 a 12:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020