Pro14: Gleision 22-5 Benetton

  • Cyhoeddwyd
Owen LaneFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Yr asgellwr Owen Lane yn croesi am gais cyntaf yr ail hanner

Llwyddodd y Gleision i drechu Benetton yn gyfforddus yn y gwynt a'r glaw yng Nghasnewydd nos Lun.

Aeth y Gleision ar y blaen gyda gôl gosb gan Jarrod Evans, cyn i'r clo Rory Thorton groesi am gais i'w gwneud yn 8-0 ar yr hanner.

Ychwanegodd yr asgellwr Owen Lane ail gais i'r tîm cartref yn yr ail hanner, cyn i Tomas Barravalle daro 'nôl gyda chais i'r Eidalwyr.

Ond llwyddodd y Gleision i selio'r fuddugoliaeth yn yr eiliadau olaf wrth i'r eilydd Ben Thomas sgorio trydydd cais y rhanbarth.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gleision yn codi i'r ail safle yn Adran B y Pro14.

Yn gynharach ddydd Llun daeth cadarnhad bod chwaraewr rheng-ôl y Gleision, James Botham wedi cael ei alw i garfan Cymru, ynghyd ag asgellwr y Scarlets, Johnny McNicholl.