Hylif golchi ceg yn lladd Covid-19 'mewn 30 eiliad' mewn lab
- Cyhoeddwyd
Gallai hylif golchi ceg ladd coronafeirws ar ôl 30 eiliad mewn arbrofion labordy, yn ôl canlyniadau cyntaf astudiaeth wyddonol yng Nghymru.
Daeth gwyddonwyr i'r casgliad ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel "arwydd addawol" y gallai'r hylif helpu i ddinistrio'r feirws o fewn pobl.
Er nad yw'r adroddiad wedi cael ei adolygu'n llawn yn allanol eto, mae'n cefnogi astudiaeth ddiweddar arall a ddaeth i'r casgliad fod hylif golchi geg sy'n cynnwys CPC (cetypyridinium clorid) yn effeithiol wrth leihau llwyth feirws.
Dywedodd Dr Nick Claydon o Brifysgol Caerdydd y gallai'r astudiaeth arwain at gyflwyno'r arfer o ddefnyddio'r hylif fel rhan bwysig o arferion dyddiol pobl.
Pe bai'r astudiaeth yn cael ei gadarnhau, fe ellir defnyddio hylif golchi ceg ochr yn ochr â golchi dwylo, pellhau cymdeithasol a gwisgo masgiau i reoli'r haint, meddai'r arbenigwr.
Mae adroddiad y brifysgol yn nodi bod hylif golchi ceg sy'n cynnwys o leiaf 0.07% CPC wedi dangos "arwyddion addawol" o allu brwydro yn erbyn y feirws mewn labordy.
Dywedodd Dr Richard Stanton, awdur arweiniol yr astudiaeth o Brifysgol Caerdydd bod yr astudiaeth yn "ychwanegu at y llenyddiaeth sy'n dod i'r amlwg y gall sawl hylif golchi ceg sydd ar gael yn gyffredin a ddyluniwyd i frwydro yn erbyn clefyd cig y dannedd hefyd yn gallu lladd coronafeirws SARS-CoV-2" o dan amodau labordy sydd wedi'u cynllunio i ddynwared y corff.
"Yn y gwddf dynol, mae'r feirws yn cael ei gynhyrchu'n gyson, felly os oes effaith, bydd yn bwysig gweld pa mor hir y mae'n para ac a allai hyn helpu i leihau trosglwyddiad, er enghraifft mewn ymchwiliadau deintyddol, archwiliadau ceg/gwddf gan feddygon teulu, neu gysylltiadau tymor byr â chleifion bregus neu unigolion eraill."
Cafodd papur ar yr astudiaeth ei gyhoeddi ar wefan bioRxiv, ac mae'r cyhoeddwyr yn nodi na ddylid ystyried y papurau "yn derfynol, nac arwain ymarfer clinigol / ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd, na'u hadrodd yn y cyfryngau newyddion fel gwybodaeth sefydledig".
Canlyniad yn y flwyddyn newydd
Daw'r astudiaeth ar drothwy treialon clinigol ar gleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Bydd yr treialon yn edrych a yw'n helpu i leihau lefelau'r feirws o fewn poer cleifion Covid-19 yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, ac mae disgwyl y canlyniadau yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Dywedodd yr Athro David Thomas, sy'n arwain yr astudiaeth, fod y canlyniadau cychwynnol yn galonogol, ond na fyddai'r treialon clinigol yn cynhyrchu tystiolaeth o sut i atal trosglwyddo rhwng cleifion.
"Er bod yr hylif golchi ceg hyn yn lladd y feirws yn y labordy yn effeithiol iawn, mae angen i ni weld a ydyn nhw'n gweithio mewn cleifion, a dyma bwynt ein hastudiaeth glinigol barhaus," meddai.
"Fodd bynnag, bydd yr astudiaeth glinigol barhaus yn dangos i ni pa mor hir y mae unrhyw effeithiau'n para, yn dilyn un dôs o'r hylif mewn cleifion â Covid-19.
"Mae angen i ni ddeall a yw'r effaith ar Covid-19 sydd wedi cael ei weld yn y labordy yn gweithio'r un ffordd mewn cleifion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2020