Sylwadau datganoli Boris Johnson yn codi nyth cacwn
- Cyhoeddwyd
Mae sylwadau Boris Johnson ar ddatganoli yn Yr Alban wedi cynhyrfu'r dyfroedd yng Nghymru.
Mae adroddiadau fod prif weinidog y DU wedi dweud mai datganoli oedd "camgymeriad mwyaf Tony Blair" a'i fod yn "drychineb" yn Yr Alban.
Ond dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, mai 20 mlynedd o lywodraethau Llafur yng Nghaerdydd oedd wedi bod yn "drychinebus" nid datganoli.
Dywedodd un o weinidogion llywodraeth Lafur Cymru bod sylwadau Boris Johnson yn "syfrdanol", ond yn "anffodus dydyn nhw ddim yn synnu rhywun".
'Haeddu gwell'
Roedd Boris Johnson mewn cyfarfod ar Zoom gyda nifer o ASau Torïaidd pan wnaeth y sylwadau nos Lun.
Cyhoeddwyd ar wefan The Sun fod Mr Johnson wedi dweud wrth yr ASau fod datganoli wedi bod yn drychineb yn Yr Alban.
Yn ddiweddarach dywedodd ffynhonnell o Downing Street fod y prif weinidog wastad wedi cefnogi datganoli, a bod Tony Blair wedi methu a rhagweld twf yr ymgyrch annibyniaeth yn Yr Alban.
"Mae datganoli yn wych, ond nid pan mae'n cael ei ddefnyddio gan genedlaetholwyr a rhai sydd am wahanu i dorri'r undeb", meddai'r llefarydd.
Wedi sylwadau Mr Johnson, dywedodd Mr Davies fod gweinidogion Cymru, sydd o'r blaid Lafur, yn mwydro ynglŷn â chael mwy o bwerau yn lle canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
"Ugain mlynedd a mwy o lywodraethau Llafur sydd wedi bod yn drychinebus i Gymru. Mae pobl Cymru'n haeddu gwell", meddai.
"Yn lle gwneud eu gwaith i sicrhau fod ein heconomi a'r gwasanaethau iechyd ac addysg y gorau y gallen nhw fod, mae Llywodraeth Cymru'n mwydro a dadlau am fwy o rym."
'Y bygythiad mwyaf'
Mewn ymateb dywedodd un o weinidogion llywodraeth Lafur Cymru bod sylwadau'r prif weinidog yn "syfrdanol", ond yn "anffodus dydyn nhw ddim yn synnu rhywun".
Ychwanegodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles: "Mae hi wedi bod yn glir ers peth amser nad oes gan y llywodraeth Geidwadol hon unrhyw ddiddordeb mewn parchu setliadau datganoli ar draws y DU.
"Mae'r prif weinidog hefyd yn weinidog dros yr undeb, ond ymddygiad ei lywodraeth ydy'r bygythiad mwyaf i ddyfodol yr undeb," meddai.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, roedd clywed Boris Johnson yn galw'r llywodraethau datganoledig yn "drychinebus a ninnau yng nghanol pandemig, fel clywed Donald Trump yn honni fod Joe Biden yn peryglu democratiaeth".
Ychwanegodd mai "ein camgymeriad mwyaf" oedd peidio gadael y DU yn gynt, a bod dim dewis gennym ond "dioddef" Mr Johnson fel prif weinidog.
Yn dilyn canlyniad agos yn y refferendwm yn 1997, cyflwynwyd datganoli yn 1999 gan Tony Blair, y prif weinidog ar y pryd.
Yn raddol cafodd y Cynulliad fwy o rym dros y blynyddoedd ac mae'r sefydliad bellach yn arddel Senedd Cymru fel ei enw swyddogol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2020