Y Gynghrair Genedlaethol: Hartlepool 0-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
pel-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth Wrecsam ddathlu'r ffaith eu bod dan berchnogaeth newydd dau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Hartlepool.

Y tîm cartref wnaeth reoli'r hanner cyntaf gyda Luke Molyneux yn dod yn agos gyda pheniad.

Yna dim ond arbediad gwych golgeidwad y Dreigiau Rob Lainton wnaeth rwystro Tom Crawford.

Ond roedd perfformiad Wrecsam wedi'r egwyl yn llawer mwy egnïol, gyda Elliot Durrell yn ergydio i'r rhwyd.

Hon oedd trydedd fuddugoliaeth Wrecsam y tymor hwn, gan eu codi i safle 13 yn y Gynghrair Genedlaethol.