Arestio dwy fenyw ar ôl mynd â plant i'r môr yn y nos

  • Cyhoeddwyd
Llun o'r olygfa ar draeth Caswel nos FawrthFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau'r Mwmbwls
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwylwyr y Glannau mai'r unig olau ar y traeth oedd fflacholeuadau'r gwasanaethau brys

Mae dwy fenyw wedi cael eu harestio wedi i'r gwasanaethau brys ymateb i adroddiadau fod pedwar o blant yn y môr yn hwyr nos Fawrth.

Cafodd yr heddlu a Gwylwyr y Glannau eu galw i draeth Bae Caswel, ym Mhenrhyn Gŵyr am 20:40 wedi galwad yn mynegi pryder ynghylch lles oedolyn a phlant yn y môr.

Dywed Heddlu De Cymru fod menyw 34 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o fod yn feddw tra'n gyfrifol am gerbyd ac esgeuluso plant.

Cafodd menyw 33 oed ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plant, ac mae'r ddwy'n parhau yn y ddalfa.

Ffynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau'r Mwmbwls
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion y gwasanaethau brys ym Mae Caswel nos Fawrth

Wedi'r digwyddiad, fe gyhoeddodd Gwylwyr y Glannau'r Mwmbwls: "Bae Caswel, tywyll bitsh, llanw uchel, gwynt cryf graddfa pedwar, nid y lle ar gyfer gwersi nofio eich plant."

Ychwanegodd eu bod yn ddiolchgar i'r gyrrwr fan Tesco "a ffoniodd ac aros yno nes i ni gyrraedd".

Erbyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd y traeth roedd pawb eisoes ar lan y môr, ac fe gafodd y plant flancedi er mwyn eu cynhesu.

Roedd bad achub a hofrennydd Gwylwyr y Glannau hefyd ar eu ffordd ond fe gawson nhw eu danfon yn ôl pan ddaeth i'r amlwg nad oedd eu hangen mwyach.