Gofal mamolaeth yn 'dda' ond pryderon lefelau staff

  • Cyhoeddwyd
Babi

Mae gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru yn "ddiogel ac effeithiol" ar y cyfan, ond mae pryderon am lefelau staffio, offer gofal brys a hyfforddi, yn ôl adroddiad.

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) archwilio 25 o unedau mamolaeth cyn pandemig Covid-19, fel rhan o adolygiad cenedlaethol.

Daeth archwilwyr i'r canlyniad bod y mwyafrif o fenywod yn adrodd profiadau positif.

Ond mae'r adroddiad yn amlygu pryderon am staffio, yn enwedig ym myrddau iechyd y de.

Lle i wella

Yn ogystal ag archwiliadau, cafodd ymatebion gan dros 3,000 o fenywod a'u teuluoedd eu cynnwys yn yr adroddiad.

Dywedodd prif weithredwr dros dro AGIC ei fod yn falch dweud bod y rhan helaeth o wasanaethau'n dda a'r mwyafrif o bobl yn cael profiadau cadarnhaol.

Ond ychwanegodd Alun Jones bod lle i wella hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd pryderon penodol am y modd y mae tymereddau'n cael eu monitro wrth storio meddyginiaethau ym myrddau iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda.

Daw'r adroddiad i'r casgliad nad oedd staff bob tro'n ymwybodol pam bod angen monitro, na beth i'w wneud os oedd y tymheredd yn disgyn y tu allan i lefel addas.

Mae hefyd yn canfod problemau gyda rhoi meddyginiaethau yn ystod genedigaeth, yn benodol ym myrddau Betsi Cadwaladr yn y gogledd a Chwm Taf Morgannwg.

Staffio digonol 'fel arfer'

Mae ymatebion staff i'r arolwg yn dangos bod 40% yn teimlo bod digon o staff i wneud eu gwaith yn ddiogel "drwy'r amser" neu "fel arfer".

Roedd pryderon hefyd am ddefnydd staff dros dro, ac effaith hynny ar ofal.

Dydy rhai unedau ddim yn monitro oriau gweithio aelodau unigol o staff, nac yn sicrhau bod bylchau digonol rhwng shifftiau.

Roedd llai na hanner yn credu bod eu gwaith yn dda i'w hiechyd, a byrddau iechyd y de oedd â'r nifer uchaf o sylwadau negyddol am lefelau staffio.

Ymysg yr argymhellion i fyrddau iechyd mae:

  • Adolygu'r gofal iechyd meddwl sydd ar gael cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth;

  • Sicrhau bod menywod yn gallu cyfathrebu yn iaith eu dewis pan yn bosib;

  • Sicrhau bod pob bydwraig yn derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol cyn gorfod rhoi cymorth gyda llawdriniaeth.

Mae hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithredu un cynllun ar gyfer y wlad gyfan yn y maes mamolaeth.

Mae'r llywodraeth wedi croesawu'r adroddiad, a dweud eu bod yn falch ei fod yn cydnabod "ymrwymiad ac ymroddiad" staff mamolaeth.

Dywedodd Alun Jones: "Mae ein hadolygiad wedi dangos bod ansawdd y gofal a ddarperir ledled Cymru yn dda ar y cyfan, a bod y mwyafrif o'r menywod a'r teuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yn cael profiadau cadarnhaol, gyda staff ymrwymedig ac ymroddedig yn darparu'r gofal."

Ychwanegodd bod "modd dysgu a gwella" ac y byddai ail gam yr adolygiad cenedlaethol yn adrodd yn ôl yn 2021.