Botham i ddechrau wrth i Gymru wneud 13 newid i herio Georgia
- Cyhoeddwyd
Bydd blaenasgellwr y Gleision, James Botham, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Georgia ddydd Sadwrn.
Cafodd Botham, sy'n ŵyr i'r cricedwr Ian Botham, ei alw i'r garfan ddydd Llun gyda Johnny McNicholl - sydd hefyd yn dechrau.
Yn ymuno â Botham yn y llinell gefn mae'r canolwr Johnny Williams a'r mewnwr Kieran Hardy - sydd hefyd yn ennill eu capiau cyntaf.
Mae 13 o newidiadau i'r tîm a gollodd o 32-9 yn erbyn Iwerddon yr wythnos ddiwethaf.
Dim ond y blaenasgellwr Justin Tipuric, sy'n gapten, a Liam Williams, sy'n cadw eu llefydd.
Mae Callum Sheedy yn dechrau ei gêm gyntaf yn safle'r maswr, yn ogystal â Louis Rees-Zammit ar yr asgell.
Mae Cymru wedi colli chwe gêm yn olynol dan yr hyfforddwr Wayne Pivac, wnaeth gymryd y llyw gan Warren Gatland ar ôl Cwpan y Byd 2019.
Bydd Cymru'n herio Georgia yn Llanelli yn yr ail gêm yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.
Tîm Cymru i wynebu Georgia:
Liam Williams, Johnny McNicholl, Nick Tompkins, Johnny Williams, Louis Rees-Zammit, Callum Sheedy, Kieran Hardy; Wyn Jones, Elliot Dee, Samson Lee, Jake Ball, Seb Davies, James Botham, Justin Tipuric (capt), Aaron Wainwright.
Eilyddion: Sam Parry, Nicky Smith, Leon Brown, Cory Hill, James Davies, Rhys Webb, Ioan Lloyd, Jonah Holmes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020