29 mlynedd o garchar i David Holland am dreisio plant

  • Cyhoeddwyd
David HollandFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn a gafwyd yn euog o gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi cael ei garcharu am 29 mlynedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Roedd y troseddau o dreisio ac ymosodiadau anweddus ar ddwy ferch ifanc wedi digwydd dros gyfnod o fwy nag 20 mlynedd.

Roedd hefyd yn euog o gyhuddiadau o fygwth lladd ac o greu a dosbarthu delweddau o gam-drin plant.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod David Holland, 56 oed o Brestatyn, wedi dangos "diffyg empathi iasoer" yn ei dystiolaeth.

Roedd Holland wedi gorfodi un o'r merched i roi ei llaw ar y Beibl a'i rhybuddio y byddai'n "mynd i uffern" os fyddai'n dweud wrth unrhyw un am y cam-drin.

Dywedodd yr erlynydd Anna Pope fod Holland wedi cysylltu gydag asiantaeth fabwysiadu yn 2015 i holi am gael mabwysiadu. Roedd agwedd Holland tuag at blant, meddai, yn "un o ddirmyg".

Clywodd y llys fod y merched wedi diodde' "dychryn a phoen". Cafodd un ei gagio a chael cyllell wrth ei gwddf yn ystod y cam-drin.

Roedd Holland hefyd wedi gyrru llun o ddoli'n llosgi iddi er mwyn achosi braw.

Roedd Holland wedi ffilmio'r cam-drin, ac wedi dosbarthu delweddau o amgylch y byd.

Ychwanegodd y barnwr fod gan Holland y gallu i seiffro delweddau er mwyn eu cuddio.

"Mae'n bosib na fydd ystod llawn y cam-drin fyth yn dod i'r amlwg," medd y Barnwr Parry.

Disgrifiodd yr achos fel "gyda'r mwyaf iasoer i mi orfod delio gydag o mewn 21 mlynedd".