Cymorth ariannol o £750,000 i glybiau pêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
BanerFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y 44 clwb yng nghynghreiriau pêl-droed Cymru yn derbyn £750,000 o arian y Loteri Genedlaethol er mwyn eu cefnogi yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cafodd y pecyn cymorth ei sefydlu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Loteri Genedlaethol gyda chymorth Llywodraeth y DU.

Fe wnaeth clybiau yn y Gynghrair Genedlaethol yn Lloegr, sydd yn cynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam, dderbyn pecyn cymorth gwerth £10m ym mis Hydref.

Cafodd y pecyn cymorth ar gyfer clybiau Cymru ei groesawu gan brif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford.

Fe ddechreuodd clybiau'r Cymru Premier chwarae eto ym mis Medi ond y tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd y pandemig.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwneud cais i Chwaraeon Cymru am statws athletwyr elitaidd i gynghreiriau'r ail haen yn y gogledd a'r de, i ganiatáu ail-ddechrau chwarae.

Cyfaddefodd Jonathan Ford ym mis Hydref fod y gêm yng Nghymru yn brwydro "sefyllfa enbyd" oherwydd Covid-19 a dywedodd fod CBDC yn wynebu colled ariannol "enfawr".

Ym mis Hydref, dyfarnodd Fifa grant o £750,000 i gefnogi clybiau ym mhedair haen uchaf cynghreiriau domestig y dynion, gyda dwy haen uchaf pêl-droed menywod yng Nghymru hefyd yn derbyn £375,000 o gymorth i liniaru colledion ariannol y pandemig.

Ond dywedodd Jonathan Ford na fyddai'n ddigon a galwodd am gymorth ariannol pellach.

"Rydym yn hynod ddiolchgar am ein partneriaeth unigryw gyda'r Loteri Genedlaethol a'r llif cyllid sydd wedi'i ddarparu ar gyfer ein clybiau ar draws cynghreiriau Cymru, tra bod gemau'n parhau i gael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig," meddai.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, fod clybiau Cymru'n chwarae rhan enfawr yn eu cymunedau lleol ac ychwanegodd: "Bydd y pecyn cyllido hwn yn helpu i alluogi clybiau i ddal ati nes y gall cefnogwyr ddychwelyd yn ddiogel."

Rhybuddiodd cyfarwyddwr cyllid Y Drenewydd, Barry Gardner, ym mis Medi nad oedd chwarae gemau heb gefnogwyr "yn gynaliadwy" ac efallai na fyddai rhai clybiau yn goroesi'r tymor, tra bod cadeirydd Tref Aberystwyth, Donald Kane, wedi rhybuddio bod clybiau mewn perygl o gael eu gyrru "i ochr y dibyn" heb gefnogaeth ariannol bellach.