Pro14: Gweilch 24-22 Benetton
- Cyhoeddwyd
Fe ddangosodd y Gweilch styfnigrwydd rhyfeddol i gipio buddugoliaeth yn erbyn Benetton a hwythau i lawr i 14 dyn.
Cafodd Gareth Evans gerdyn coch am drosedd beryglus ac roedd y Gweilch ar ei hôl hi o 22-10 gyda llai na 10 munud yn weddill.
Ond fe sgoriodd Shaun Venter a Dewi Lake geisiau hwyr cyn i drosiad munud olaf Stephen Myler selio'r fuddugoliaeth.
Fe sgoriodd bachwr Benetton, Hame Faiva, driawd o geisiau ond doedd hynny ddim yn ddigon i'r ymwelwyr yn y pen draw.
Hon oedd y fuddugoliaeth gyntaf mewn pedair gêm i'r Gweilch tra bod Benetton heb fuddugoliaeth mewn pum gêm.
Y Gweilch: Mat Protheroe; George North, Tiaan Thomas-Wheeler, Keiran Williams, Luke Morgan; Stephen Myler, Reuben Morgan-Williams; Gareth Thomas, Ifan Phillips, Tom Botha, Adam Beard, Rhys Davies, Will Griffiths, Dan Lydiate (capt), Gareth Evans.
Eilyddion: Dewi Lake, Rhodri Jones, Ma'afu Fia, Lloyd Ashley, Olly Cracknell, Sam Cross, Shaun Venter, Josh Thomas.
Benetton: Jayden Howard; Ratuva Tavuyara, Joaquin Riera, Tommaso Benvenuti, Monty Ioane; Ian Keatley, Dewaldt Duvenage (capt); Cherif Traore, Hame Faiva, Tiziano Pasquali, Irne Herbst, Federico Ruzza, Giovanni Pettinelli, Michele Lamaro, Marco Barbini.
Eilyddion: Tomas Baravalle, Thomas Gallo, Filippo Alongi, Riccardo Favretto, Alberto Sgarbi, Callum Braley, Luca Petrozzi, Leonardo Sarto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2020