Pro14: Leinster 40-5 Gleision Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd gan Gleision Caerdydd gryn dasg wrth herio Leinster ar eu tomen eu hunain ond fe ddangosodd y Gleision gryn egni.
Ond gan nad oeddynt wedi ennill yn erbyn y Gwyddelod ers 2011 prin oedd y disgwyliadau gan y cefnogwyr mwyaf selog.
Er eu hymdrech lew i amddiffyn yn enwedig yn yr ail hanner fe ddaeth ceisiadau lu i Leinster - ceisiau i Dave Kearney, Jimmy O'Brien a James Tracy yn yr hanner cyntaf ac yna cais i Michael Silvester a dau i Scott Penny yn yr ail hanner.
Fe droswyd pump o'r ceisiau gan Harry Byrne gan roi deugain pwynt i'r Gwyddelod.
Unig ateb y Gleision oedd un cais gan Aled Summerhill yn yr hanner cyntaf.
Mae Leinster bellach wedi ennill eu holl gemau yn y Pro14 ac wedi ennill pwyntiau bonws ymhob gêm hefyd.
Mae'r bwlch rhwng timau rhanbarthol Iwerddon a Chymru yn amlwg iawn yn ystod y tymor hwn.