Cyfarwyddyd i Saeson ar sut i gyfarch Cymry yn 1838

  • Cyhoeddwyd
Llyfr ymadroddion CymraegFfynhonnell y llun, PA Media/Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y brawddegau i ymwelwyr mae "A gaf i'ch trafferthu chwi i'm cyfarwyddo fi i....." a "Ni fedraf siarad Saesneg"

Mae llyfr ymadroddion 180 oed, a oedd wedi cael ei greu er mwyn dysgu twristiaid o Loegr sut i siarad â "gwerinwyr" Cymru, wedi cael ei ddarganfod gan archifwyr.

Cafodd 'Y Dehonglydd Cymreig' ei argraffu yn Llundain ym 1838 ac mae'n cynnwys y dyfyniad "Wedi'i addasu ar gyfer Twristiaid, a allai fod eisiau i'r werin eu deall yn ystod eu teithiau cerdded trwy Gymru".

Mae'r canllaw yn cynnig ystod o ymadroddion Cymraeg yr honnir eu bod yn 'hanfodol' i deithiwr o Loegr i Gymru yn oes Fictoria, ynghyd â help gydag ynganiad.

Ymhlith yr ymadroddion mae "Fy nghyfaill addfwyn, ai hon yw y ffordd i ————?" ac "Ai Cymro ydych chwi?"

Ymhlith y cynghorion ar gyfer twristiaid o Loegr sy'n dewis archwilio mynyddoedd Cymru mae'r brawddegau "Y'r ydych wedi pendroni o rhan i chwi edrych i lawr" yn ogystal â "Peidiwch ag edrych i lawr".

'Defnyddiol ac anrheidiol'

Cafodd y llyfryn ei ysgrifennu gan Thomas Roberts o Lwynrhudol, Pwllheli, a oedd yn ddyn busnes a chyd-sylfaenydd Cymdeithas Cymreigyddion Llundain, cymdeithas gymdeithasol a diwylliannol ar gyfer Cymry alltud a oedd yn byw ym mhrifddinas Lloegr.

Dywed sylwadau rhagarweiniol yn y llyfr ymadroddion: "Pe bai unrhyw ymddiheuriad yn angenrheidiol ar gyfer cyflwyno 'Y Dehonglydd Cymreig' i sylw'r cyhoedd, gallai fod yn ddigonol nodi amhosibilrwydd twristiaid Lloegr yn cael eu deall gan fàs y werin Gymreig, y mae màs y werin Gymraeg yn deall hynny.

Mewn brawddeg arall mae'r awdur yn dweud: "Gall fod yn hynod gyfleus weithiau i ofyn ychydig o gwestiynau defnyddiol ac angenrheidiol, yn enwedig wrth deithio trwy'r ardaloedd mwy aneglur ac anghysbell."

Ffynhonnell y llun, PA Media/Prifysgol Caerdydd

Roedd y fersiwn clawr caled yn perthyn i fargyfreithiwr ac awdur ar Gymru, Enoch Salisbury, a fu farw ym 1890, ac mae ei gasgliad oes o lyfrau ymadroddion a gwerslyfrau Cymraeg - sy'n cael ei ystyried fel y llyfrgell gynharaf sy'n ymroddedig i bopeth Cymraeg - bellach ar gael ar-lein yng Nghasgliadau Arbennig Gwasanaethau archifau Prifysgol Caerdydd.

Ymhlith yr eitemau hanesyddol eraill sydd wedi cael eu datgelu gan archifwyr ac a rannwyd ar gyfer yr ymgyrch Wythnos Archif cenedlaethol mae poster o Gymru o'r 1930au yn hyrwyddo priodweddau "meddyginiaethol" gwin a gwirodydd.

Ffynhonnell y llun, PA Media/Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

A oedd yna rinweddau meddyginiaethol i winoedd a gwirodydd yn yr 1930au?

Mae'r poster, gan James Williams Ltd, a oedd yn gwerthu alcohol yn Arberth, Sir Benfro, yn disgrifio Champagne fel "meddyginiaeth ar gyfer niwmonia, broncitis a'r ffliw", Burgundy "i helpu anemia a blinder" ac mae'n honni y gall Brandi "ostwng tymheredd a helpu'r galon".

Dywedodd Hayden Burns, cadeirydd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru: "Y casgliadau hanesyddol sydd gan wasanaethau archifau Cymru yw'r cof cofnodedig o bobl, digwyddiadau a lleoedd Cymru.

"Maen nhw'n adrodd ein straeon ac wrth wneud hynny, maen nhw'n ein cysylltu â'r gorffennol ac yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i ni."