Gwneud cais am grant busnes Covid yn 'draed moch'

  • Cyhoeddwyd
Open shopFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r broses o wneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru i ddelio â straen economaidd y pandemig wedi cael ei disgrifio fel un "annheg" a "blêr" gan fusnesau.

Agorwyd y gronfa £100m, rhan o drydedd rownd y Gronfa Gwytnwch Economaidd, ar 28 Hydref - ond ddiwrnod yn ddiweddarach bu'n rhaid ei chau oherwydd maint y galw.

Tra bod nifer o gwmnïau dal wrthi'n casglu dogfennau i gefnogi eu ceisiadau, mae cwynion bod ceisiadau gan gwmnïau eraill wedi eu derbyn hebddyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n "datblygu cynigion" ar gyfer rhagor o gefnogaeth i fusnesau yn y dyfodol.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Russell George, yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi "methu busnesau trwy ddiffyg cyfathrebu a diffyg eglurder".

Ychwanegodd llefarydd economi Plaid Cymru, Helen Mary Jones bod "dryswch" ymysg busnesau am y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw, a bod angen i'r llywodraeth ddysgu gwersi o'r problemau sydd wedi codi.

'Hollol hurt'

Roedd yn rhaid i ymgeiswyr lenwi'r ffurflen yn erbyn y cloc, gydag 20 munud i gwblhau bob tudalen a chyfarwyddyd i atodi cyfriflenni banc ac amcanbrisiau i'w cais.

Roedd y cyfarwyddyd yn nodi bod y dogfennau yn "rhan angenrheidiol o'r broses ymgeisio" a phetai "ceisiadau yn cael eu gyrru i mewn heb y dogfennau atodol priodol, fydd eich cais yn cael ei wrthod".

Er hynny mae BBC Cymru wedi gweld tystiolaeth bod rhai cwmnïau wedi cael gwneud cais heb gyflwyno'r dogfennau ychwanegol, a chael pum niwrnod ychwanegol er mwyn cael trefn arnyn nhw.

Doedd cwmni Jamie Williams o Fetws-y-Coed ddim yn un o'r rhai hynny.

Fe wnaeth ef gais ar gyfer ei gwmni awyr agored, North Wales Active, ond mae'n disgrifio'r broses fel "traed moch".

Ar ôl treulio rhai dyddiau'n darllen y cyfarwyddiadau swyddogol a chasglu dogfennau a'i ffurflenni banc ynghyd, roedd e'n disgwyl "hedfan" drwy'r ffurflen gais.

"Ond wrth i ni fynd ati i ddechrau'r cais y diwrnod wedyn, roedd o wedi cau, sy'n hollol hurt," meddai.

Mae'n dweud y byddai'r grant £10,000 wedi bod yn "bwysig dros ben" i'w gwmni.

"Mae'n busnes ni ar ei liniau. Does neb yn bwcio i wneud ein gweithgareddau ni achos unai ry'n ni wedi bod dan glo, neu maen nhw dan glo."

'Trin cwmnïau'n wahanol'

Un arall a wnaeth gais i'r gronfa yw Natalie Isaac. Mae hi a'i theulu yn rhedeg pum bwyty, gan gynnwys dau yng Nghaerdydd - Asador 44 a Bar 44.

Fe wnaeth gais i'r gronfa ar ran y ddau fusnes. Cafodd cais Bar 44 ei wrthod am "fethu ag atodi cyfriflenni banc," sy'n gwbl anghywir, yn ôl Ms Issac.

Ond cafodd y busnes arall estyniad er mwyn cyflwyno'r dogfennau atodol o fewn pum niwrnod.

"Felly dyna ddau sefydliad, yn cael eu trin mewn dwy ffordd cwbl wahanol. Dydyn ni ddim yn credu bod pob busnes yn cael eu trin yn gyfartal gan y broses yma," meddai Ms Isaac, sydd nawr yn herio'r honiad nad oedd hi wedi atodi ei ffurflenni banc.

"Yn fy marn i, dylai'r broses fod yn un teg a rhesymol."

Ffynhonnell y llun, Natalie Isaac
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Natalie Isaac nad ydy'r system bresennol yn deg

Mae Ms Isaac yn dweud bod ei busnesau hi wedi gweld cwymp o £3.7m mewn gwerthiant ers y pandemig, gyda nifer y staff ar draws y pum bwyty lawr o 120 i 52 ers mis Mawrth.

Mae'n dweud mai'r gobaith oedd defnyddio arian y Gronfa Gwytnwch Economaidd er mwyn ailgyflogi rhai o'r staff hynny.

Er iddi lwyddo gwneud cais, cafodd Kerry DeCaux hefyd ei gwrthod gan y gronfa - am nad oedd hi wedi atodi digon o dystiolaeth i gyd-fynd â'i chais.

Mae'r perchennog siop flodau o Gaerdydd yn dweud ei bod hi'n teimlo "dan bwysau" wrth wneud ei chais.

"Roedd y cais yn cael ei amseru, do'n i ddim yn disgwyl hynny. Fe ddarllenais i'r cyfarwyddiadau gystal ag y gallwn i wrth i fi gwblhau bob tudalen, ac yna'i yrru," meddai.

"Fe wnes i'r gorau gallwn ni, ond ro'n i'n teimlo dan bwysau."

Pan dderbyniodd Ms DeCaux yr e-bost yn gwrthod ei chais, fe ofynnodd "am gyfle i gywiro'r elfennau ro'n i wedi eu methu. Ond yr ateb ces i oedd nad oedd 'na broses apelio.

"Ro'n i wir yn teimlo wedi 'nhorri gan yr ymateb. Eisteddais i ar lawr fy siop yn llefen y glaw."

Mae Twristiaeth Gogledd Cymru wedi cynnal arolwg o brofiadau eu haelodau wrth wneud cais i'r gronfa £100m, fel rhan o rownd ddiweddaraf y Gronfa Gwydnwch Economaidd.

O'r 111 aelod a ymatebodd, roedd 44 wedi llwyddo i wneud cais ac yn disgwyl ymateb.

O'r 67 na wnaeth cais, roedd 29 yn cyfeirio at y "broses gymhleth iawn" a'r "rhwystrau amser".

Yn ôl Prif Weithredwr Twristiaeth Gogledd Cymru, Jim Jones, dyw'r grant "ddim wedi darparu'r help sydd gymaint ei angen" a'i fod wedi gadael busnesau "wrth ymyl y dibyn" - ac na ddylai busnesau na lwyddodd i gael cefnogaeth y tro hwn "gael eu gadael heb help wrth wynebu 2021".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jim Jones nad yw'r grant "wedi darparu'r help sydd gymaint ei angen"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw "wedi gweithio'n galed i gefnogi busnesau drwy'r cyfnod rhyfeddol o anodd yma ac rydyn ni eisoes wedi darparu busnesau gyda £100m o drydedd rownd y Gronfa Gwytnwch Economaidd ers ei lansio'r mis diwetha'.

"Hyd yn hyn, mae 80% o'r busnesau sydd wedi derbyn arian o'r gronfa hon wedi bod yn fusnesau bach sydd wedi gwneud cais drwy'r broses ymgeisio ddigidol.

"Lansiwyd ein canllaw ymgeisio ar gyfer y gronfa dair wythnos cyn iddi agor er mwyn rhoi digon o gyfle i fusnesau baratoi eu ceisiadau.

"Fe wnaethom ni hefyd ofyn iddyn nhw ddarparu dogfennau cefnogol angenrheidiol er mwyn diogelu cyllid llywodraeth.

"Rydyn ni'n cydnabod bod rhai busnesau wedi colli allan y tro hwn ac rydym ni'n ystyried opsiynau ynglŷn â sut allwn ni ddosbarthu unrhyw gefnogaeth yn y dyfodol."