'Angen mwy o hyblygrwydd' i helpu busnesau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o hyblygrwydd gan y Trysorlys os yw Llywodraeth Cymru i wneud "ymrwymiadau penagored" i helpu busnesau yn ystod y pandemig, yn ôl adroddiad academaidd.
Mae'r adroddiad gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn dweud fod dros £1 biliwn o gyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru heb ei ddyrannu er mwyn brwydro Covid-19.
Mae hyn, meddant, yn adlewyrchiad o "ansicrwydd parhaus" ynghylch yr arian sy'n dod o Lywodraeth y DU.
Ond er gwaethaf cefnogaeth "ddigynsail" Llywodraeth Cymru, mae'r adroddiad yn dweud y bydd "mwyafrif y gefnogaeth economaidd" i fusnesau a gweithwyr Cymru yn dod o'r Trysorlys.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU eu bod wedi darparu lefel digynsail o gefnogaeth ariannol i Lywodraeth Cymru eleni - gan warantu £4.4 biliwn yn ychwanegol i'r gyllideb wanwyn.
"Mae pobl a busnesau yng Nghymru yn parhau â mynediad llawn i holl fesurau'r DU i'w cefnogi yn y pandemig, gan gynnwys Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig, Cynllun Adfer Swyddi Coronafeirws, budd-daliadau di-waith ymhlith nifer o fesurau eraill."
Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru dros £5 biliwn er mwyn mynd i'r afael â Covid-19, gan gynnwys arian sydd wedi'i symud o'i chyllidebau ei hun a £4.4 biliwn o'r Trysorlys o ganlyniad i amcangyfrif o wariant ychwanegol yn Lloegr.
Mae'r rhan fwyaf o'r arian wedi'i wario ar gefnogi busnesau, gyda thua £1.6 biliwn o grantiau a chymorthdaliadau wedi'u dyrannu.
Mae llawer hefyd wedi'i wario ar gyllideb y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys cronfa gwerth £800 miliwn a gyhoeddwyd yn yr haf i baratoi ar gyfer y don bresennol mewn achosion Covid-19.
Mae cynghorau wedi derbyn tua £490 miliwn o gefnogaeth.
Yn ôl y corff craffu Archwilio Cymru mae awdurdodau lleol yn wynebu costau ariannol o £325 miliwn dros chwe mis cyntaf y pandemig.
Ond nid yw bron i £1.2 biliwn o'r cyllid sydd ar gael ar gyfer brwydro Covid-19 wedi'i ddyrannu.
Mae'r adroddiad gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud: "Mae'r ffaith nad yw'r swm sylweddol hwn o arian wedi cael ei ddyrannu yn adlewyrchu'r ansicrwydd sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu wrth gynllunio ei chyllideb eleni.
"Mae'r ansicrwydd hwn ynghylch pwysau ar wasanaethau cyhoeddus y gaeaf hwn a'r angen posibl am gymorth economaidd pellach yn cael ei dwysau gan y trefniadau cyllidebol anhyblyg sydd ar waith ar hyn o bryd [rhwng Trysorlys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru].
"Dylai Llywodraeth y DU naill ai fod yn llawer mwy hyblyg yn y ffordd o gyllido llywodraethau datganoledig eleni, gan ddarparu cyllid yn y bôn ar sail y galw fel yn Lloegr, neu roi'r offer rheoli cyllideb a'r pwerau benthyca i'r llywodraethau datganoledig i ganiatáu iddynt wneud hynny eu hunain."
Berinidadu'r Trysorlys
Mae'r rhan fwyaf o'r gefnogaeth ariannol ar gyfer gweithwyr wedi dod gan Lywodraeth y DU, gyda'r adroddiad yn dweud bod "dros 400,000" yng Nghymru wedi manteisio ar y cynllun ffyrlo.
Ond mae'n ychwanegu nad oes "unrhyw dystiolaeth bod dargyfeiriadau mewn canllawiau iechyd cyhoeddus hyd yma wedi arwain at wariant cymharol fwy y pen gan Lywodraeth y DU yng Nghymru o'i gymharu â gwariant y pen yn Lloegr."
Dechreuodd ffrae dros y penwythnos ar ôl i'r Trysorlys gyhoeddi y byddai'r cynllun ffyrlo a oedd i fod i ddod i ben ddiwedd mis Hydref yn cael ei ymestyn tan fis Rhagfyr yn sgil y penderfyniad i gyflwyno cyfnod clo yn Lloegr.
Dywedodd prif weinidog Cymru nad oedd "yn deg o gwbl" bod Trysorlys y DU wedi gwrthod ei geisiadau am hybu cyflogau cyn cyflwyno'r cyfnod clo yng Nghymru.
Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif bod "tua 224,000 o weithwyr yng Nghymru yn gweithio mewn sectorau sydd wedi'u cau i lawr yn rhannol neu'n gyfan gwbl oherwydd y cyfnod clo byr" - tua 16% o weithlu Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020